Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ohonynt ar y bryn; "ble ma'r pennill, Mr. Williams? " "Wel," meddai yntau, "mae arna i chwant canu pennill, os canwch chi'r cytgan." Distawrwydd mawr, a disgwyl! A chyda chôf am gân John Dyer i "Fryn y Grongar," dyna ddechreu canu—

Canodd DYER, brydydd hawddgar,
Fa la la la la, la, la, la, la,
(meddai'r gwŷr priod),
Fel y gwcw ar y Grongar,
Fa la la la la, la, la, la, la,
Ond ym mharti y "gwŷr priod,"
Fa la la, la la la, la, la, la,
Dyma grucyn o gwcŵod,

(Ac nid oedd neb i ganu'r gweddill o'r cytgan.)


Byddai tro digrif, chwareus, yn galw allan englyn yn aml, a gallai gario digrifwch i ambell amgylchiad digon poenus. Dyma ddarn o bapur—un hanner dalen o rybudd ynglyn â Llyfrgell Gymreig Coleg Aberystwyth, ydyw—ond rhaid iddo yntau ar ei ddoeth hynt ddod i mewn i fywyd mawr y Bardd ar ei ochr led-ddamweiniol, ddifyrrus:—

"TYNNU'R DANT HIR!"
Nos SUL, MAWRTH 20, 1898.

Tynnu mawr, am awr, a mwy—y dant tost!
Dant hir anghredadwy!
Y dant llygad ofnadwy!
Dant hir, yn filltir neu fwy!


Wedi'r tynnu y bu'r canu, wrth reswm! Ond dyna swn helynt mewn amgylchiad bychan! Dyna ddwyn allan chwerthin o amgylchiad anfarddonol! Pwy faidd feddwl am fychander yr amgylchiad, ac am fwyafiaeth, wedi i'r Bardd droi'r cyfan i chwerthin? Gwnaeth y peth i fynd nes ennill ei ryddid. Yr un dawn welir ynglyn â'i ddannodd ar y môr. Tynnwyd y dant, a dyma'r ystori:—

Fy nant yn yr Atlantic—a orwedd
Wedi marw'n sea-sick;
Os na chwyd, taflwyd y "tic"
I'r môr wrth fynd i'r 'Meric.