cerrig ym Mrynaman, oedd yn ei feddwl wrth wneuthur y gân. Daeth â rhyw symud byw, math o nervousness, i mewn i'r pennill, nes cael o ddyn wrth ei ddarllen, hwyl, fel hwyl dilyn pêl. Perthyn i'r dosbarth hwn o ffraethineb y mae ei bennill ym "Marwolaeth yr Iaith Gymraeg," a ddyfynnwyd eisoes, ac amryw eraill.
Mor ogleisiol yw ei ffraethineb yn y ban hwnnw o'i gân, "Ac felly'n y bla'n!" Wedi darlunio "celwydd yn tyfu," drwy i'r naill ar ol y llall ychwanegu at y stori wrth ei dywedyd, meddai, mor bert a sydyn,
A'r hen 'stori'n ymestyn nes bo'i oddiwrth ei gilydd,
A'r gwir bob yn getyn yn ei gadael rhag cywilydd.
A dyna'i ergyd i'r "Llenladron "
Lladratant ar bawb ond eu hunain, rai gwael,
Lladratent oddiyno tae rhywbeth i'w gael.
Direidi mwy plaen, llai cyfrin, yw ei ddireidi ar ddiwedd pennill yn "Helynt y Meddwyn." Wedi gwrando'r meddwyn, druan —er wedi cael digon eisoes i'w lorio—yn eiriol am roi chwart arall i lawr—ei roi yn y cyfrif yn ei erbyn—try'r Bardd i ofyn iddo:—
Wyt ti ddim yn meddwl y byddai'n well ar dy ran,
Na rhoi'r cwart yna lawr, drio dy roi di ar lan?
Cyfoeth mawr yn ei ffraethineb yw ei allu i gadw ergyd, ac yna ei ollwng yn un ergyd cyfan, sydyn, nes bod y darllenydd dan yr effaith, bron ffrwydro mewn chwerthiniad iachus. Dyna'i bennill yn" Mae nhw'n dweyd."—
Mae nhw'n dweyd ar ol dweyd yr hyn sy 'i ddweyd i gyd,—
'Nol darfod â'r gwir, mae nhw'n dweyd, dweyd o hyd;
Mae nhw'n dweyd—wn i ddim faint mae nhw'n ddweyd ar fai,
Mae nhw'n dweyd dylai rhai, ta beth, ddweyd llawer llai.
Dyna'r ergyd o'r diwedd, ond wedi chware âg ef, megis yn ei ddwrn, am dair llinell. A dyna efe eto yn ei linell olaf o englyn y meddwyn:—
Heb un tâl ond ei ben tost.