reuodd floesg-siarad ein hanwylaf iaith, a dyma lle yr anadlodd odlau cyntaf ei fywyd barddonol. Ha! fwthyn breintiedig, nid wyf yn sicr na chusanaf dy furiau, ac na eneiniaf dy lawr â'm dagrau, os caf byth gyfle. Gresyn mawr fod y bwthyn diaddurn ond breintiedig hwn erbyn heddyw yn adfeilion. Cedwir y bwthyn lle ganwyd Shakespeare mewn trwsiad priodol, a thelir ymweliad ag ef gan luoedd o edmygwyr y bardd yn barhaus. Yr ydym yn gobeithio yr adgyweirir y bwthyn lle ganwyd Eben Fardd hefyd, ac nid oes genym yr amheuaeth leiaf na bydd yn gyrchle attyniadol i filoedd lawer o edmygwyr gwresog y cadeirfardd mewn oesau dyfodol. Y mae geiriau Robyn Wyn ar y pwnc yma yn dlysion ac yn dra phriodol. Dyma fel y dywed gyda golwg ar gyn-gartref ein prif-fardd," yn ei Farwnad fuddugol iddo yn Eisteddfod Gadeiriol y Rhyl:—
"O! le cysegredig i deimlad yr awen,
Paham mae dy furiau yn gorwedd yn garn?
Wel, dyma'r hen aelwyd siriolai ein Eben,
Cyn gartref y prif-fardd, i anrhaith yn sarn!!
Chwi feibion celfyddyd, ail godwch ei furiau,
Cwyd yma ei golofn, O Gymru fy ngwlad;
Gaiff lluest yr awen fod byth yn garneddau?—
Na lwyther ei enw fel hyn â sarhad."
Bu y bachgen Ebenezer yn ysgol ei ardal enedigol
am ychydig amser. Bu hefyd yn dilyn celfyddyd
enwog ei dad. Ai celfyddyd enwog a ddywedasom?
Ie, ddarllenydd, canys y mae wedi bod yn gelfyddyd
dra enwog yn ein gwlad ni, ac felly i raddau helaeth
mewn gwledydd eraill; a hyny oherwydd fod cynifer
o ddynion enwog wedi dechreu gyrfa eu bywyd yn ei
gwasanaeth. Gallem nodi lluaws mawr o esiamplau
i brofi y pwnc; ond bydd cyfeirio at ddwy neu dair o
engreifftiau yn ddigon i wasanaethu ein hamcan ar