Nid oedd gan ei rieni unrhyw wrthwynebiad iddo farddoni, ac felly ni bu raid iddo ddyoddef yr erledigaeth chwerw hono a ddesgrifir mor effeithiol gan Twm o'r Nant yn ei Gywydd ar "Henaint." Pan anwyd ein bardd, yr oedd ei rieni yn disgwyl pethau mawrion oddiwrtho yn y dyfodol, er nad oedd ganddynt un drychfeddwl o gwbl am y llwybr a dorid allan i'w athrylith gan Ragluniaeth ddoeth y nef. Rhoddasant yr enw Ebenezer arno oddiar deimlad o barch i goffadwriaeth yr efengylydd galluog ac enwog, y Parch. Ebenezer Morris o'r Deheudir. Gobeithiai y tad y gwelid ei fab yntau ryw ddiwrnod yn bregethwr mor boblogaidd a dylanwadol a'r hen weinidog parchus a hyawdl hwnw.
Nid hir yr arhosodd Eben yn nghwmni y wenol. Aeth i ysgol yn Abererch, yr hon a gedwid ar y pryd gan Mr. William Owen, yr hwn a symudodd wedi hyny i'r Drefnewydd. Bu Mr. Owen yn pregethu gyda'r Methodistiaid am ryw gymaint o amser; yr oedd hefyd yn fardd gwych, yn gerddor enwog, ac yn meddu ar wybodaeth gyffredinol eang. Gwelodd yr athraw fod Ebenezer yn meddu athrylith, a'i fod yn sychedu am wybodaeth. Ond bychan a feddyliai, yn ddiau, mai y bachgen syml, tawel, a diymhongar hwn a safai rhyngddo ef a chadair farddol ei wlad mewn cyfnod dyfodol. Feallai mai nid anmhriodol mynegu yn y fan hon mai Mr. Owen, un o athrawon cyntaf Eben, oedd yr ail oreu ar "Ddinystr Jerusalem," pan enillodd Eben Fardd y gadair. Yn fuan wedi hyn, darfu i amaethwr o'r enw Mr. Isaac Morris, Pentyrch isaf, gymeryd Eben dan ei nodded, gan ei anfon i ysgol Tydweiliog, Lleyn; a'r ysgol blwyfol gyffredin hon oedd yr ysgol olaf a gafodd cyn myned yn ysgolfeistr ei hunan. Tua'r adeg hon cododd anghydfod rhwng ei dad a brawd crefyddol a berthynai i'r un