eglwys; ac er nad oedd pwnc yr ymrafael ond dibwys ddigon ar y cyntaf, eto enynodd y wreichionen fach y defnyddiau oedd o'i hamgylch, nes tori allan yn dân cynhwrf ac anghysur. Parodd hyn i Eben oeri a chadw ymaith o'r capel. Yn y cyflwr anffodus hwn, cymerwyd mantais arno gan rai tueddol i ddiota. Gan ei fod yn brydydd, gallai, yn ol yr hen arfer, gael faint a fynai o ddiodydd meddwol yn rhad. Syrthiodd Eben yn ysglyfaeth i'r demtasiwn hudoliaethus a ymosodai arno; ac wedi i'r gelyn unwaith gael ei ben i lawr fel hyn, nid rhyfedd fuasai ei weled cyn hir yn engraifft alarus o gymeriad wedi ei ddinystrio, fel y bu gormod o lawer o feibion athrylith yn mhob gwlad ac oes. Ond cyn iddo fyned yn ysglyfaeth i'w chwant, gosododd Rhagluniaeth ef mewn sefyllfa fanteisiol i orchfygu y gelyn, ac adenill y nodwedd hardd a feddai gynt; canys wedi iddo symud i Glynnog Fawr, lle y treuliodd fywyd mor bur a dysglaer, aeth i lettya at Thomas Williams, Cae'r Pwsant, ac yno y gorchfygodd ei arferion blaenorol.
Gwnaeth gynydd anarferol mewn dysg pan yn ysgol Tydweiliog, canys nid oedd ond oddeutu pedair-ar-bymtheg oed pan gafodd ei ddewis i fod yn ysgolfeistr yn Llanarmon, ei blwyf genedigol. ei blwyf genedigol. Ond nid oedd yr hyn a ddysgodd yn yr ysgol ond megys dim wrth yr hyn a ddysgodd drwy ei ymdrechion personol yn ystod ei fywyd. Nid myfyriwr tra yn yr ysgol yn unig ydoedd, ond bu yn efrydydd caled hyd ei fedd. Dysgodd yr iaith Saesneg yn lled dda tra yn yr ysgol, ond dysgodd hi yn ardderchog wrth dyfu i fyny. Cyrhaeddodd gryn wybodaeth hefyd yn yr iaith Lladin, a rhai ieithoedd eraill, ac mewn celfyddyd rhif a mesur; ac yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn ddiau yn destyn syndod nid bychan, os ystyrir pa mor brin oedd ei fanteision. Medrai ddarllen Cymraeg