Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pan oedd o bedair i bum' mlwydd oed, a bu yn gyfaill calon i lyfrau byth wedi hyny. Y mae yn deilwng o sylw fod Eben, fel y rhan fwyaf o ddynion mawr, yn ddyledus yn benaf i'w fam am ei gychwyniad boreuol. Y hi fu y prif offeryn yn llaw Rhagluniaeth i'w arwain gyntaf i rodio ffyrdd rhinwedd a dysg.

Bu yn cadw ysgol yn ei blwyf genedigol, ac yn y plwyf nesaf, Llangybi, am oddeutu pum' neu chwe' blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn y cynrychodd y cyfansoddiad a'i dygodd i sylw ei gydwladwyr gyntaf—y cyfansoddiad a fu yn foddion i'w arwain yn ddisymwth o ddyblygion gwyll dinodedd i ganol goleuni dysglaer enwogrwydd a bri. Dywedir nad oedd eto erioed wedi ymgeisio am un math o wobr o gwbl. Ond rhyw ddiwrnod canfu restr testynau yr Eisteddfod Genedlaethol a fwriedid gynal yn y Trallwm. Ar ben y rhestr canfyddai destyn y gadair. Digwyddai fod yn destyn oedd yn taro ei chwaeth i'r dim. Aeth ei galon i guro, a'i ddwylaw i led-grynu. Penderfynodd ganu, yna dechreuodd gyfrif y draul, a gwenodd wrth feddwl am ei ffolineb rhyfygus pan yn meddwl anturio i gystadleuaeth mor bwysig, yn yr hon y byddai prif awenyddion Cymru yn debyg o wneyd eu hymddangosiad. Eto, methai ymysgwyd oddiwrth y peth. Yr oedd y testyn yn ymrithio i'w feddwl o hyd, ac yn goglais tannau ei ddychymyg yn ddiorphwys. Ymwrolodd eilwaith, a dechreuodd gyfansoddi yn nghynhyrfiad annesgrifiadwy y foment. Dyna yr englyn cyntaf ar y papur, dyna yr ail yn ei ddilyn yn ddisymwth, a'r trydydd a'r pedwerydd wedi hyny. Mae y bardd ieuanc yn gafael yn ei destyn, a'i destyn yn gafael ynddo yntau. Mae yn cael hwyl—hwyl o'r iawn ryw—ac yn yr hwyl wresog hono mae yn anghofio y wobr, y gadair, y bri, a