Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y byddai modd, cyfeirient at rai llinellau yn yr Awdl, y rhai, meddent, oeddynt yr un ffunud a gwaith Dewi.

Mae yn anhawdd peidio tynu dau neu dri o gasgliadau oddiwrth yr ymosodiad iselwael a dirmygus hwn. Gallwn weled, yn y lle cyntaf, fod cenfigen yn medru siarad yn dra afresymol. Os Dewi oedd wedi cyfansoddi yr Awdl, paham na buasai yn ei harddel? Ai nid oedd y gwaith yn eithaf teilwng hyd yn nod o Dewi Wyn? Ac oni chafwyd digon o brofion yn flaenorol fod yr anrhydedd o gael eistedd yn nghadair farddonol Cymru ddim yn nôd rhy isel i gynhyrfu uchelfrydedd y prif—fardd o'r Gaerwen? Ai nid oedd Dewi wedi ymgeisio am y gadair ei hunan, a hyny fwy nag unwaith? Ac oni theimlai yn siomedig ddigon pan attaliwyd hi yn anghyfiawn oddiwrtho yn Eisteddfod fythgofiadwy Dinbych? Gwelwn, yn yr ail lle, fod cenfigen yn gibddall. Rhaid ei bod wedi colli ei dau lygad, neu ynte yn mynu cau y ddau, cyn y buasai yn meiddio dweyd mai Dewi oedd awdwr "Dinystyr Jerusalem"—cyfansoddiad ag y mae ei gynllun a'i arddull yn brofion eglur a diymwad fod yn anmhosibl i Dewi fod yn awdwr iddo.

Gwelwn, yn y trydydd lle, fod cenfigen, wrth geisio lladd y diniwed, yn gorfod talu gwarogaeth i'w deilyngdod diamheuol. Wrth haeru mai Dewi Wyn oedd awdwr yr Awdl, addefent yr un pryd (er yn hollol anfwriadol) fod y gwaith yn deilwng o awen danllyd Dewi. Rhaid i gyfansoddiad fod yn lled wych cyn yr ä neb i'r drafferth o geisio creu amheuaeth yn meddyliau y cyhoedd gyda golwg ar ei awduriaeth. Pa bwys pwy fydd wedi cyfansoddi sothach? Amheuwyd awduriaeth Arwrgerddi anfarwol Homer. Bu llawer o ddadleu yn nghylch awduriaeth gwaith Shakespeare. Profodd rhai ysgrifenwyr, a hyny mewn dull tra