Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

boddhaol iddynt hwy eu hunain, mai Bacon, ac nid Shakespeare, oedd y gwir awdwr; ac felly profent fod gwaith y prif-fardd Seisnig yn deilwng nid yn unig o'r bardd a'i cyfansoddodd, ond hefyd yn deilwng o alluoedd y prif athronydd. Amheuwyd awduriaeth gorchestwaith Mrs. Stowe hefyd; ac nid Eben ydyw yr unig gadeirfardd Cymreig a gafodd yr anrhydedd uchel o gyfansoddi gwaith digon pwysig i demtio rhywrai i godi dadl mewn perthynas i'w awduriaeth. Oyn gadael y pwnc hwn, nis gallwn lai na dyfynu yr ohebiaeth ganlynol, yr hon a ymddangosodd yn y "Cymro" rai blynyddau yn ol. Yr ydym yn ei dyfynu, nid yn unig er mwyn penderfynu awduriaeth "Dinystr Jerusalem," ond hefyd am y credwn y bydd gohebiaeth a gymerodd le rhwng y fath awdwyr enwog yn dra dyddorol, hyd yn nôd mewn oesau i ddyfod. Dyfynwn y llythyrau yn hollol fel yr ydym yn eu cael, heb gyfnewid dim ar yr orgraff na'r attalnodau:—

[1]
"AT DEWI WYN O EIFION.

"ENWOG FARDD,—Hysbys i chwi er ys dyddiau yw hanes Eisteddfod y Trallwng, pa fodd y cadeiriwyd y Milwriad Parry o Fadryn, megis cynrychiolydd eich cymydog o Lan Gybi. Yr oedd yn sibrwd ym mhlith y Beirdd, a pheth anfoddlondeb, mai gweinidog cyflog yn y Gaer Wen oedd Ebenr. Tomas! Y nos cyn yr Eisteddfod derbyniais bapuryn, yn mynegi i mi hyny, heb enw wrtho;—ond ni sylwais ar y newydd, gan ei ystyried megys ar fagli'm tramgwyddo. Tethi yr Awdl yn unig yr oeddwn i yn eu golygu, heb ofalu pwy oedd ei hawdwr, ai bonheddig ai gwreng, ai uchelwr ai gweinidog. Newydd arall yno oedd eich bod chwi, a'ch cyfaill, R. ab Gwilym Ddu, wedi gweled yr Awdl fuddugol cyn ei hanfon i Bowys, a'ch bod eich deuodd yn ei chymeradwyo yn fawr. Nid oedd dim i'w feio yn hyn chwaith. Bellach, os argrephir yr Awdl hon, yn mysg yr wyth eraill, ar ddinystr Jerusalem, mi a ddymunwn beth gwell diwyg arni, o ran dystewi dadwrdd centfgen. Canys er ei bod, i'm barn i, yn rhagori, ac ynddi amrai fanau a phenillion cedyrn hynod, y mae er hyny ynddi rai ban-