Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nau lled weiniaid a chyffredin. Gan hyny, er mwyn eich cymydog, anfonwch am dano i ymweled â chwi gynted ag y byddo cyfleustra, a gosodwch ger ei fron ef y pigion canlynol, i edrych a ydynt wrth ei fodd ef, neu gystal ar na ddichon gwell:—

1.—A ydyw yr ail Englyn wrth ei fodd ef? Gwell i'm golwg i a fyddai yr Awdl hebddo—ac ni byddai ball cydiad hebddo. Pa fodd y gellir galw Jerusalem yn ei nherth a'i phrydferthwch yn "garnedd grog? "

2.—Yn y 3ydd englyn,—'Yn ei bri hon wnai barhâu,'—ai nid oes yma fath ar broest odliad? Crych a llyfn hefyd?

3.—Yn y 4ydd englyn, ä bardd i ben clogwyn, 'Af yn awr,' &c.; 'Jerusalem fawr islaw i'm fydd,' ac yna, yn y pummed englyn, 'I ben mynydd af.' I'm deall i y mae yma beth cymysgedd—'gwel'd' ym mhob un o'r ddau englyn yn lle gweled. Geill gwel'd wneud y tro, er hyny cwttog—air cyffredin ydyw.

4.—Yn yr ail golofn, "Dysgedigion ymrodient mewn mawrydi,' —ai nid gwell fyddai mawrhydi? Yw ei thrwyawl athrawon,' ac 'efryd ar y gyfraith.' Gwneir efryd yma yn berwyddiad neu ferf, yn lle efrydu, myfyrio, astudio, &c.

5. Yn y 3ydd golofn, 'dai dillynion,' 'tra iachusol at rai achosion,' go wan a chyffredin yw y llinell ddiweddaf.

6.—Ail golofn, 'Fan orhoff orlawn o fwn a pherlau.'

7. Caer Salem sicr ei seiliau. 'Y mae sicr yn ysgrythyrol, ond a ydyw yn air Cymreig? Ai nid o'r Saesneg secure?

8.—Adgof gennyf nad gwarantedig yw llusgiad o'r 5ed i'r 6ed sill, o ran eu bod yn sathru eu gilydd. Dylai y sill lusg gyntaf fod yn ail, drydedd, neu bedwaredd. Gwelir yn yr Awdl, 'Ar Jerusalem tremiaf,' Yna'r march luoedd floeddiant.' Y mae yn ddilys nad yw y sain mor beraidd a phe byddai sill neu ddwy rhyngddynt.

"Ni chwanegaf sylwadau yn rhagor, ac nid oedd achos am hyn i chwi, nac, efallai, i'ch cymmydog; ond pryderus ydwyf i'r Awdl, pan argrephir hi, ymddangos yn ei gwisg oreu; canys dir gennyf y bydd llawer o sylwi arni, a beio hefyd, os gellir. Y mae rhai o'r brodyr tra hunanol wedi gyrru am eu hawdlau ar y testun, ac yn rhyfeddu at eu siomedigaeth. Gan hyny, bwriwch olwg gofalus dros ysgwydd eich cymmydog pan fyddo yn ysgrifenu adysgrif newydd i'w gyrru i mi. "Yr wyf yn adnabod eich gwaith ym mhlith cant, er nad wyf etto yn eich adnabod chwi; ond gobeithio y caf hyny cyn hir, naill ai yn wyddfodol, ai trwy lythyr di—ymgel. Gwelais Elusengarwch o ddau fath; yr oedd un yn rhagori tu hwnt i bob cyfartalwch; ond

nid oes achos i mi yn awr ddywedyd pa un. Gwelais amryw bethau