Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

102 COFIANT

eisoes, gyda Mr. Thomas Williams, Oae'r Pwsant. öyn hir ffurfiodd gymdeithas â Mary Williams, y ferch, yr hon wedi hyny a briododd ; ac yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf cyüil, diwyd, a darbodus a fu yn ein byd erioed. Yr oedd hefyd yn feddianol ar duedd dra chrefyddol, ac yn nodedig o ofalus am ei phriod a'i phlant. Dywedai Eben, wrth ymddyddan â chyfaill, nad oedd holl draul ei dŷ dros bymtheg punt yn y flwyddyn am flynyddau. Yr oedd ganddo gyfrifon, meddai, yn daogos hyny. Bu iddynt bedwar o blant, sef un mab a thair o ferched. Ymddengys i helyntion y byd, ar ol iddo briodi, roddi cryn attalfa ar ffordd ei awen. Ond pan ystyriom cyn lleied o amser oedd ganddo i fyfyrio a chyfansoddi, mae yn rhyfedd fod cynyrchion ei ysgrifell wedi bod mor doreithiog. Nid yn unig cadwai ysgol, ond arferai hefyd rwymo llyfrau am flyuyddoedd. " Y day book cyntaf a feddais fel meddyg," ebe loan ap Hu Feddyg, " sydd o rwymiad Eben Pardd. Rhyw wladaidd, ond hynod o gref a threfnus, fel ei eiddo ei hun, oedd y wisg a roddai am ei gyfeillion y llyfrau." Llyfrgell fach oedd ganddo, ond rhoddodd ei sefyllfa fel llyfr-rwymydd gyfle iddo ddarllen llawer llyfr heblaw yr ychydig gyfrolau oedd yn ei feddiant. Nid oedd ei fywyd yn ddim llai trafferthus ar ol iddo roddi i fyny ei alwedigaeth fel rhwymwr llyfrau, canys yr oedd ganddo ysgol, siop, a llythyrdy i ofalu am danynt. Byddai hefyd yn cyflawni cymwynasau lawer i bobl eraill, megys cadw cyfrifon y plwyf, ac ysgrifenu llythyrau dros hwn a'r Hall. Gan fod Olynog ar y brif-ffordd sydd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ni byddai odid ddiwrnod yn pasio heb i rywrai alw gydag ef, er mwyn cael yr anrhydedd o weled y bardd, a mwynhau twysged o'i gymdeithas. Ond pa uu bynag ai darllen, c^fansoddi, neu ynte