Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dynion hyny, meddwn, yw y rhai y gellir ymddiried fwyaf yn eu gonestrwydd a'u huniondeb, pan ddigwyddant gael eu dyrchafu i orsedd beirniadaeth eu bunain. Mae y dyn twyllodrus a dichellgar yn barod i gredu fod pawb fel efe, ac o ganlyniad yn barod i amheu pawb. Mae y dyn gonest a didwyll, o'r ochr arall, yn barod i gredu fod pawb fel yntau, ac o ganlyniad yn barotach i ymddiried yn eraill nag i'w hamheu. Mae y Saeson yn gallu ymgeisio, a boddloni ar eu tynged, er iddynt golli y wobr, a phaham nas gall y Cymry wneyd yr un peth? Cynygiwyd haner can' gini o wobr am y gân Seisnig oreu i goffadwriaeth y bardd Ysgotaidd Robert Burns. Yr oedd dros chwe' chant yn cystadlu, a llawer o honynt yn feirdd o radd uchel. Dyfarnwyd y wobr i Isa Craig —merch ieuanc, ac awdures oedd heb enill haner yr enwogrwydd a enillasai rhai o'i chydgystadleuwyr. Diamheu fod y canoedd ymgeiswyr aflwyddianus yn teimlo yn siomedig—mor siomedig ag y teimla y Cymro ar ol colli y gamp yn yr Eisteddfod Genedlaethol; eto yr oedd ganddynt ddigon o barch i degwch a boneddigeiddrwydd i fod yn ddystaw. Ni ddarfu i gymaint ag un o honynt ddarostwng ei hun drwy ymosod ar ei feirniaid. Ond pan fydd haner dwsin o Gymry, wedi ysgrifenu ar destyn, dilynir y gystadleuaeth am wythnosau, fe allai, gan ryfel bapyr o'r fath ffyrnicaf. Dygid cyhuddiadau pwysig yn erbyn y pwyllgor, a haerir fod y beirniaid yn ddynion hollol amddifad o bob egwyddor onest a chyfiawn, a dywedir yn hyf eu bod wedi gwneyd "cam" erchyll a diamheuol. Ond, fel rheol gyffredin, ni bydd neb yn dwyn y cyhuddiadau difrifol hyn yn mlaen heblaw yr ymgeiswyr siomedig, a'r rhai hyny heb gael cyfle o gwbl i weled y cyfansoddiadau buddugol! Y mae cymaint o niwed wedi ei wneyd yn