Nghymru, yn yr ystyr yma, nes y barnodd rhai dynion teilwng fod melldith yn rhwym o fod yn gysylltiedig â phob cystadleuaeth, ac y buasai yn well alltudio yr egwyddor gystadleuol allan o'n Heisteddfodau ac o'n holl gyfarfodydd llenyddol. Ond y mae ymddygiad y Saeson, feddyliem ni, yn profi mai nid ar yr egwyddor gystadleuol y mae y bai, eithr yn hytrach ar y cystadleuwyr; ac y mae ymddygiad clodwiw ambell Gymro addfwyn a boneddigaidd fel Eben Fardd yn profi yr un peth.
Ni chynyrchodd ein hawdwr yr un cyfansoddiad maith rhwng Eisteddfod Beaumaris ac Eisteddfod Llynlleifiad, ysbaid o wyth mlynedd. Ond cyfansoddodd liaws o fân ddarnau, a rhai o honynt yn meddu cryn deilyngdod. Un o destynau Eisteddfod y Feni am 1839 oedd " "Deuddeng Englyn i Arch Noah." Yr oedd Eben yn ymgeisydd, ond ni bu yn fuddugol, er y rhestrid ei gyfansoddiad yn ail oreu. Gan nad oedd awdwr yr Englynion buddugol yn deilwng o'i gymharu am foment ag Eben fel bardd, yr oedd llawer yn teimlo yn lled amheus gyda golwg ar ddyfarniad y wobr. Er mwyn i'r cyhoedd gael cyfleusdra teg i farnu y pwnc, cyhoeddwyd y ddau gyfansoddiad yn gyfochrog yn y "Gwladgarwr;" ac ni phetruswn ddweyd ddarfod i gydymgeisydd Eben enill y flaenoriaeth arno yn ddigon teg y pryd hyny. Nid rhyfedd, chwaith, oedd i'r mawr gael ei drechu gan un llai, mewn cystadleuaeth ag oedd yn cyfyngu yr ymgeiswyr i gylch mor fychan a deuddeng Englyn, tra yr oedd y testyn yn un mor ëang. Y mae rhai beirdd bychain yn nodedig o ffodus mewn darnau byrion, tra nas gall llawer bardd mawr ddim dangos ei allu o gwbl heb gael digon o faes i'w athrylith. Y mae llawer bardd israddol yn Lloegr wedi bod yn fwy hapus yn ei sonnets na'r prif-fardd