Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 107

James Ebenezer Thomas, yr hwn a garai fel ei enaid ei hun. Oyn i'r daran groch ddystewi, a chyn i'r cymylau duon adael y wybren dy wyll, dyna'r bardd ei hunan yn myned ymaith, a'i gydgenedl yn wylo yn ddolef us o'i ol. Bellach nid oedd ond un o'r teulu yn aros tu yma i'r bedd, sef Mrs. Ellen Davies, merch hynaf y bardd. Ond nid hir y cafodd hithau ei gadael yn myd y galar, canys ymadawodd a'r fuchedd hon ar y cyntaf o Fawrth diweddaf, ac hebryngwyd ei gweddillion marwol i fynwent Beuno, gan dyrfa alarus, ar y chweched dydd. Yr oedd yn meddu tuedd gref at lenyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol eaDg, ac yr oedd yn ofalus i roddi addysg dda i'w phlant, y rhai, fel ei phriod galarus, a amddifadwyd gan angeu o'u prif gysur daearol. Ymddengys fod Mrs. Davies, Hendre Bach, yn deilwng ferch i'r prif-fardd, a phrif addurn ei bywyd oedd ei chrefydd bur a dysglaer.

Ar ol Eisteddfod Llynlleifiad atelid Eben yn fynych rhag ymgystadlu, drwy gael ei benodi yn feirniad. Y prif Eisteddfodau y bu efe yn feirniad ynddynt oedd Eisteddfod Preiniol Aberffraw, 1849; Eisteddfod Madog, 1851 ; Eisteddfod Oymreigyddion Llundain, 1855 ; Eisteddfod oymreigyddion Merthyr Tydvil, 1859 ; Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 1860 ; Eis- teddfod Genediaethol Aberdar, 1861 ; ac Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1862.

Dyna y prif Eisteddfodau y bu yn barnu ynddynt, ac fe allai mai mewn cysylltiad a'r Eisteddfodau hyn y cyfansoddodd ei brif feirniadaethau ; ond nid ydyw y beirniadaethau hyn, wedi'r cyfan, yn arddangos ond rhan fach o'i lafur beirniadol. Bu yn barnu mewn lliaws mawr o Eisteddfodau lleol, ac mewn ugeiniau lawer o gyfarfodydd Uenyddol. Dywed y Parch. R. Hughes, Uwchlaw'r Pfynon, mai o'i frwd- frydedd a'i ymdrech i godi'r Ysgol Sabbathol y tardd-