Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at brophwydoliaethau y Beibl, ac mewn cysylltiad â hyny wedi penderfynu cyfansoddi Awdl ar Adferiad Jerusalem," fel math o gyferbyniad, mae'n debyg, i'r Awdl gyntaf a gyfansoddodd yn ei fywyd. Ond oedodd roddi ei fwriad mewn gweithrediad hyd nes ymddangosodd rhestr testynau Eisteddfod Rhuddlan, pan y llyncwyd ei fryd yn gyfangwbl gan bwnc mawreddus "Yr Adgyfodiad testyn oedd yn dwyn cysylltiad agos â'r pwnc a ddewisasai efe ei hun.

Yn mhen wyth mlynedd ar ol Eisteddfod Rhuddlan, cawn Eben yn ymgeisio eto am Gadair Powys, yn Eisteddfod fawreddog Llangollen. Y testyn ydoedd "Awdl ar Frwydr Maes Bosworth," a'r beirniaid oeddynt Hiraethog, Nicander, a Chaledfryn. Barnai y ddau gyntaf mai Eben oedd y buddugoliaethydd, a'i fod yn deilwng o gael eistedd am y drydedd waith yn Nghadair Farddol ei wlad—anrhydedd nad oedd neb o'i gydoeswyr yn feddianol arno. Cynhaliwyd yr Eisteddfod hon yn 1858, ac yr oedd Eben ar y pryd yn 56 oed.

Yr oedd ein bardd bellach yn myned yn hen, ond yr oedd ei awen, er hyny, yn parhau yn fywiog eto, er gwaethaf tymhestloedd profedigaethus a ddisgynasent ar ei ben. Yr ydym yn ei gael, gan hyny, yn ymgeisio am y Gadair Farddol am y chweched waith yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1862), yn drugain mlwydd oed. Y testyn ydoedd "Awdl ar y Flwyddyn," a'r beirniaid oeddynt Nicander, Caledfryn, a Gwalchmai. Barnai y cyntaf mai bardd Clynnog a ddylasai gael y gadair, ond yr oedd y ddau ddiweddaf yn barnu yn "unfryd unfarn" mai Hwfa Môn oedd y buddugoliaethydd, ac efe gan hyny a gadeiriwyd. Barnai llawer fod y siomedigaeth a gafodd Eben ar y pryd wedi prysuro ei farwolaeth, gan i'r amgylchiad galarus gymeryd lle mor fuan ar