Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ol Eisteddfod Caernarfon; ond dywedai ef ei hun na ddarfu i hyny ei niweidio o gwbl. Dywedai hefyd mai nid ei amcan yn gymaint oedd enill y Gadair, ond ei fod yn cyfansoddi er mwyn difyru ei hun yn nhrymder y gauaf, yn nghanol ei unigedd athrist; canys bu am amser maith heb neb yn y ty gydag ef, gan fod ei forwyn yn dyoddef dan glefyd trwm ar y pryd. Credai ei fod wedi cyrhaedd yr amcan oedd ganddo mewn golwg; ac yr oedd hefyd yn hyderu na byddai ei Awdl yn un dianrhydedd i'w enw pan gaffai ei chyhoeddi.

Cyhoeddodd gasgliad bychan o'i gyfansoddiadau barddonol yn 1841, dan yr enw syml a dirodres, "Caniadau." Cynwysai y llyfr hwn ei Awdlau Cadeiriol ar "Ddinystr Jerusalem " ac Amynedd a Chystuddiau Job," Galarnad y diweddar Barch. J. Elias, yn nghydag amryw fân ddarnau eraill.

Cyhoeddodd gofiant Robert Williams (Robert ab Gwilym Ddu o Eifion), yn y flwyddyn 1846. Efe hefyd a gyfieithodd y rhan fwyaf o'r gyfrol gyntaf o "Chamber's Information for the People" (Addysg Chambers i'r Bobl), yr hon a gyhoeddwyd yn Mhwllheli; a dywedir ddarfod iddo gyfieithu llawer o'r ail gyfrol hefyd, a gyhoeddwyd wedi hyny yn Nghaernarfon.

Ysgrifenodd lawer i wahanol gyhoeddiadau ei wlad. Yn nechreu ei oes, ysgrifenai yn achlysurol i'r "Seren Gomer," "Y Dysgedydd," a'r "Gwyliedydd" wedi hyny i'r "North Wales Chronicle," a'r "Gwladgarwr"; ac yn ddiweddarach i'r "Carnarvon Herald," "Y Cymro," "Yr Amserau, "Yr Athraw," "Y Drysorfa," "Y Geiniogwerth," "Y Traethodydd," a'r "Archaiologia Cambrensis," "Yr Herald Cymraeg, ""Baner ac Amserau Cymru," "Golud yr Oes," "Y Brython," &c.