Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—cyfaill tirion a diymhongar hollol, heb y gronyn lleiaf o chwydd na rhodres yn perthyn iddo. Yn wir, clywsom rai yn cwyno ei fod yn rhy ostyngedig a diymhongar, ac y teimlasent yn fwy cysurus yn ei gyfeillach pe buasai ychydig yn fwy ymwybodol o'i fawredd fel bardd a llenor. Gwyn fyd na byddai rhai o'n llenorion yn debycach iddo yn hyn o beth. Cyn gynted ag y bydd ambell un yn alluog i gynghaneddu rhyw fath o Englyn, teimla mor chwyddedig a phe byddai wedi creu byd, a chymer ofal, ar bob achlysur, i ddangos i bawb ei fod yn ystyried ei hun yn rhyw un mawr anarferol. Ond yr oedd bardd Clynnog yn yr eithafnod cyferbyniol. Gallasai dyn dieithr ymddyddan ag ef am haner diwrnod, heb gael un gair o'i enau, na gweled dim yn ei ymddygiad, ag a roddasai yr awgrym lleiaf fod Mr. Thomas, y Post Office, yn fardd nac yn llenor o gwbl.

Nid oedd ein bardd yn areithydd. Yr oedd ei wyleidd-dra anghyffredin yn rhwystr anorfod o'i flaen, pan gynygiai ddweyd gair yn gyhoeddus. Nis gallai siarad na sefyll fel areithiwr. Byddai ei ystum yn debycach i ystum cardotyn yn erfyn am elusen nag i ystum llefarwr cyhoeddus yn cyfarch ei wrandawyr. Pan yn darlithio ar Addysg" yn Liverpool, flynyddau yn ol, gwnai i bawb feddwl yn fach am yr areithiwr, tra y coleddent y syniadau uchaf am y meddyliwr. Darllen ei ddarlith, fel plentyn, a wnaeth; ond yr oedd yr hyn a ddarllenai yn arddangos y fath feddwl cawraidd a meistrolgar, nes oedd y gynulleidfa liosog a goleuedig yn gorfod gwrandaw ar yr oll a ddywedid gyda'r dystawrwydd dwysaf, a chyda theimladau o barch ac edmygedd trwyadl a digymysg.

Gall rhai ddysgleirio mewn cwmni, pan nas gallant ddweyd dim yn gyhoeddus; ond nid oedd Eben, mewn un modd, yn feddianol ar y cymhwysder arbenig