Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 113

hwnw syddtyn gwneyd dyn yn ymddyddanwr gwych. Gall tawedogrwydd, raae'n wir, fod yn gydymaith dylni, yn gystal ag y gall fod yn gydymaith athrylith. Ond yn gyffredin dynion arwynebol yw y personau hyny sydd yn meddu galluoedd meddyîiol neillduol i ymddyddan. Dylem gofio, pa fodd bynag, fod gwa- haniaeth rhwng ymddyddan yn dda ac ymddyddan yn effeithiol. Y mae llawer o ddynion mawr yn gallu llefaru yn dda mewn cwmni, ac eto, rywfodd, bydd y dylanwad a'r " myn'd " yn eisieu. Ac o'r ochr arall, bydd dynion cyffredin iawn yn gallu ymddyddan gydag effeithiolrwydd anghyffredin, tra nas gellir dweyd eu bod, mewn un modd, yn llefaru yr hyn sydd ddoeth a da. Dyn dystaw a difywyd mewn cyfeillach oedd Addison ; ac yr oedd Goldsmith mor ddiffygiol yn hyn, fel Da byddai ei ymddyddan, ambell dro, yn ddim gwell na lol. Nid oedd Eben chwaith yn ymddyddanwr gwych, ond yr oedd yn ddiau yn ymddyddanwr doeth. Ni siaradai ond ychydig iawn, ond byddai yr ychydig a ddy wedai yn dra theilwng, bob amser, o wrandawiad astud ac ystyriaeth ddifrifol. Nid oedd dim o blentyn- rwydd Goldsmith yn perthyn iddo ; ond diau ei fod mewn cyfeillach yn tebygu cryn lawer i Addison, yn gystal ag i luoedd o ddynion mawrion eraill.

Ymddengys ei fod yn meddu cymhwysderau neill- duol fel ysgolfeistr. Ni byddai yn arfer disgyblaeth lem, eto byddai y plant yn ufudd iddo, ac yn teimlo parch mawr tuag ato. Ond gyda y " bechgyn mawr " yr oedd ganddo fwyaf o ddylanwad. Byddai gwŷr ieuainc awyddus am wybodaeth yn derbyu ei addysg gyda'r rhwyddineb a'r boddhad mwyaf ; a theimlent anwyldeb mawr tuag ato ar ol gadael ei ysgol. Bu yn ysgolfeistr am yr ysbaid maith o un mlynedd a deugain ; ac yr oedd ei ysgol yu Nghlynnog Pawr wedi enill y fath ddylanwad yn mhlith y cyhoedd,

N