Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDÜ. 115

opinions, to be called a system, and inposed upon mankind .ih a digest of Holy Writ. All I have to hold is—' That a condemned sinner has no way of being reconciled to an offended Deity, bat through the merits of Jesus Christ;* and if this be thoroughly beleived, the result of course will be to embrace Jesus ; and dedicate our souls and bodies to his service and keeping."

Yr ydym ni, pa fodd bynag, ar ol rhoddi ystyriaeth ddifrifol i'r pwnc, yn credu nad oedd Eben, mewn ystyr grefyddol, ond yr hyn y proffesai fod, sef aelod gyda'r Trefnyddion Galfinaidd. Gallai nad oedd yn gwbl yr un farn a'r cyfeillion hyny yn mhob peth ; ond diameu ei fod yn credu yn gydwybodol eu bod hwy yn agosach i fod yn berffaith nag un blaid gref- yddol arall, onide ni buasai yn parhau i fod yn aelod yn eu plith. Pe credasai am foment fod rhyw enwad arall yn fwy cywir o ran ei olygiadau crefyddoi, y mae'n ddiau y buasai yn ymuno ar unwaith â'r enwad hyny ; canys nid dyn a gredai un peth, ae a broffesai beth arall, oedd efe. Er cymaint oedd ei dynerwch a'i oddefgarwch Cristionogol, ac er mor Ian ydoedd oddiwrth bob math o ragfarn a phleidgarwcli, eto dangosai y penderfyniad cryfaf, os ceisid ganddo weithredu yn groes i argyhoeddiadau ei gydwybod. Fel prawf o hyny, ni raid ond cyfeirio at ei ymddyg- iad yn gwrthod myned yn offeiriad, pan roddwyd cynyg mor deg iddo ; a gellir cyfeirio at ymddygiad arall o'i eiddo, fel prawf nerthol o'r un peth. Mewn ysgrif alluog ar Eben Pardd, yr hon a ymddangosodd yn y "Faner " am Ohwef. 25, 1853, dy wed yr awdwr, yr hwn oedd yn dra chydnabyddus a'r bardd, fel y canlyn : —

M Bu Eben Fardd yn cadw ysgol yn Nghlynnog Fawr am hir flyn- yddoedd heb un gwrthwynebiad ; ac mewn man o hen Eglwys Gad- eiriol Clynnog y bu yn ei chadw am amser maith. Ond tua naw neu ddeng mlynedd yn ol, meddyliodd yr Eglwyswyr fod yr Ymneilldawyr wedi cael eu rhwysg yn ddigon o hyd yn Nghlynnog i ddysgu'r plant : a bod yn bryd iddynt hwythau bellach ddechreu meddwl am ysgol i