Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wneud disgyblion pendant i'r Eglwys o'r plant; ac yn gyson â'r syniad yma, adeiladasant ysgoldy dirfawr ei faint, yn ymyl ty y bardd, i gadw ysgol Eglwysig ynddo. Dylid sylwi yma fod yr ysgol a gadwai y bardd yn hollol rydd o ran ei hegwyddorion crefyddol—rhoddi addysg dda i'r ieuenctyd oedd dan ei ofal oedd pwnc y bardd rhyddfrydig, gan adael rhwng eu cydwybodau hwy a'u rhieni am eu crefydd. Gwyddai yr Eglwyswyr fod dylanwad Eben Fardd fel dyn, fel athraw, fel bardd, ac fel Cristion, bron yn ddiderfyn yn ei gymydogaeth; ac y buasai yn gofyn dyn nad oedd yn hawdd ei gael yn Nghymru i fod yn athraw yn ymyl Eben Fardd. O'r tu arall, yr oedd yn edrych yn ddigon tywyll ar y bardd ei hun; canys er ei fod yn cadw tipyn o siop, a'i fod yn swyddog y llythyrfa yn y lle; eto ar yr ysgol yr oedd ei fywioliaeth ef yn ymddibynu yn benaf. Yn y cyfamser, cynygiodd y gwyr Eglwysig i'r bardd gael dyfod yn athraw i'w hysgol hwy. Gwyddai yr Eglwyswyr fod y bardd yn Ymneillduwr cadarn a chydwybodol, er mor ddidwrf ydoedd gyda'i egwyddorion; canys yr oeddynt wedi cael prawf o hyny o'r blaen, pan y gwrthododd y bardd, fwy nag unwaith, gynygion llawer mwy manteisiol yn nglyn â'r Eglwys Sefydledig, na bod yn athraw ysgol. Gwyddent ei fod yn ddiacon ffyddlawn a defnyddiol, er's blynyddoedd meithion, gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghlynnog Fawr; ac yr oedd ganddynt barch mawr iddo fel dyn, ysgolhaig, a bardd; a diau hefyd fod amryw o honynt yn parchu ei sefydlogrwydd diwyro fel Cristion. Yn ngwyneb hyn, rhoddent y telerau esmwythaf o'i flaen er iddo ddyfod yn athraw yr ysgol Eglwysig; sef, dim ond cymeryd y cymun unwaith yn y mis yn unig yn yr Eglwys Sefydledig. Ymddengys na bu'r bardd (y Cristion cywir a fyddai y gair mwyaf priodol yma) ddim munyd yn penderfynu pa fodd yr ymddygai. Pa fodd bynag, meddyliodd y byddai yn gymhwys iddo osod y pwnc o flaen ei frodyr yn eglwys y Methodistiaid yn Nghlynnog cyn datgan ei benderfyniad wrth ei gyfeillion o'r Eglwys Sefydledig. Pan ddeallodd ei frodyr fod y telerau mor esmwyth; a chan eu bod hefyd dan ddylanwad ofn colli eu prif arweinydd o'r gymydogaeth, penderfynasant yn unfryd, mai doeth, yn ngwyneb yr amgylchiadau, a fyddai i'r bardd dderbyn y cynygiad. Ar hyn, cyfododd y bardd (y 'Blaenor') i fyny, yn nghanol ei frodyr, a'i lygaid fel 'tân byw yn tanio 'n ei ben' (canys er nad oedd ganddo dafod llithrig, yr oedd ganddo 'lygad eryr'), a dywedodd gyda phwyslais nad anghofir gan neb a'i clywodd yn eu hoes—Na! ni chymeraf fi byth mo gymun fy Ngwaredwr er mwyn arian.' Gwyddai pawb yn y lle fod y peth wedi ei benderfynu am byth yn awr; canys yr oedd gair Eben Fardd yn llw."