Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Tuag wythnos cyn iddo farw, pan ymwelodd cyfaill âg ef, wylai yn hidl am ei fod yn rhy wan i ymddyddan. Pan y daeth ato ei hun, sylwai, ‘Oes o ryfel caled a gefais i yn y byd. Yr wyf yn meddwl fod rhyw fwy o dueddiadau drwg ynof fi na neb, ac onide na buasai eisieu cymaint o ymdrech i'w darostwng am gymaint o flynyddoedd. Bydd yn bur chwith i mi fy lle wedi myned i'r nefoedd i gael llonyddwch.' Dywedai wrth gyfaill, ychydig ddyddiau cyn marw, ' Mae yn gysur i'm calon heddyw na ddefnyddiais yr awen i lygru neb trwy ganiadau masweddol' Cymered beirdd ieuainc Cymru Eben Fardd yn esiampl yn ei burdeb hwn.

"Yr oedd fel y Salmydd ag 'ofn angeu wedi syrthio arno' o'r dechreu, şef, ofn ei ddirdyniadau; ond nid ydym yn gwybod iddo gymaint ag unwaith amheu diogelwch ei gyflwr. Yr oedd ei ffydd yn Nghrist yn ddiysgog. Tystiai yn fynych nad oedd waeth ganddo pa un ai byw ai marw a wnai, oni bai am loesion angeu. Tybygem fod yn anmhosibl i neb, yn ol trefn natur, gael ei waredu yn llwyrach oddiwrth yr hyn a ofnai nag efe. Bu farw mor dawel a difraw ag y cysgodd erioed ar fron ei fam. Do! gwybu Eben Fardd trwy brofiad ра beth yw 'huno yn yr Iesu.' Ychydig cyn ei ymadawiad, dywedai mewn cynghanedd,

'Y nefoedd fydd
Yn berffaith ddydd
bob goleuni i'w ddysgwyl sydd.'

'Mae yr awen yn eich canlyn o hyd, 'nhad bach,' ebai ei ferch. Ydyw, hyd angeu,' ebai yntau gyda gwên, ' yn y nefoedd y canaf yn iawn!' Fel yna, am haner awr wedi wyth o'r gloch y boreu, Chwefror 17eg, 1863, yr ymadawodd Eben Fardd â'r fuchedd hon; ond nid heb yn gyntaf wasanaethu ei genedl yn y modd ffyddlonaf fel llenor, bardd, a Christion. Claddwyd ef y dydd Llun canlynol yn mynwent Clynnog Fawr.

Yr ydym yn awr yn gadael y rhan fywgraffyddol o'r traethawd, ac yn prysuro yn mlaen at y rhan bwysicaf, yn ein tyb ni, sef y rhan sydd i ddwyn cysylltiad ag athrylith Eben Fardd. Nid yw bywyd Eben yn hynod, ar wahan oddiwrth ei yrfa lenyddol. Yn wir, y mae bywyd llawer dyn di-athrylith hollol wedi bod yn llawer mwy amrywiol a rhyfedd. Ond