Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei feddu; ac yn ei Awdl ar Farddas," dywed bardd Clynnog ei hun:­—

"Crebwyll yw prif bwyll y bardd,
Y cryfaf yw y creufardd."

Ond, pa fodd bynag am hyny, fe addefa pawb fod arucheledd yn un o orseddfeinciau uchaf yr awen, neu yn hytrach yn un o'r bryniau uchelaf a mwyaf agos i'r nefoedd ag y gallodd un awen erioed ei ddringo, o ddyddiau Job hyd yn awr. Ychydig iawn, yn wir, sydd yn gallu enill un math o glod ar y maes dyrchafedig hwn. Y mae canoedd yn gallu bod yn dyner, yn ffraeth, neu yn dlws, ond rhyw un o bob cant o'r lluoedd hyny sydd yn gallu rhagori yn yr aruchel. Dyma un o brif nodweddion Homer o Milton. Gwelwyd llawer dyn bach ei feddwl a allai ysgrifenu cân doddedig, ambell dro, os byddai ei enaid yn cael ei gynhyrfu gan ryw deimlad dwfn ar y pryd. Ond ni all neb ysgrifenu yn aruchel ond y dyn gwir fawr. Ar gyfrif y teilyngdod uchel hwn y mae Eben yn hawlio sefyllfa dra anrhydeddus yn mhlith beirdd, ac yn wir, prif-feirdd mwyaf awenyddol ei wlad. Mae yn wir y rhaid iddo ildiaw y llawryf am lymder gwatwareg i Thomas Edwards o'r Nant, am goethder i Gwallter Mechain, am dlysineb i Alun, ac am angerddoldeb a dyfnder teimlad i Ieuan Glan Geirionydd; ond ni raid iddo byth ildiaw y llawryf am arucheledd, i unrhyw brif-fardd Cymreig. Mae y mawreddigrwydd urddasol hwnw mewn syniad ac arddull, sydd yn dyrchafu yr enaid ac yn ei lethu â syndod a boddhad—mae y gallu nerthol a rhyfedd hwn, a adnabyddir wrth yr enw arucheledd, i'w ganfod yn eglur yn nghynyrchion Eben Fardd. Ac nid rhyw fflachiad amserol, yn awr ac yn y man, oedd arucheledd Eben; ond rhyw afon lydan, ddofn, a lifai yn fawreddog o hyd, er ei bod weithiau yn rhedeg yn