Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawer cyflymach nag ar adegau eraill. Hwyrach y byddai yn gynhorthwy i ni ffurfio barn am Eben pe gallem ddangos yn mha beth yr oedd yn gwahaniaethu oddiwrth ei athraw barddonol, Dewi Wyn. Diamheu ei fod yn tebygu mwy i Dewi nag i un bardd Cymreig arall; ac eto yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng y ddau. Yr oedd Dewi yn fwy amrywiol yn ei ragoriaethau nag Eben. Gallai ef fflangellu â gwatwareg ysgorpionog; gallai ganu cân serch digon effeithiol i siglo penderfyniad yr hen lanc mwyaf cyndyn a phenderfynol yn y wlad; gallai ddarlunio tegwch natur gyda'r lliwiau mwyaf dengar a swynol; a gallai hefyd ymddyrchafu ar brydiau i diriogaethau yr aruchel.

Gallai Eben hefyd ragori i raddau yn mhob un o'r pethau hyn, ond yr oedd yn gorfod rhoddi y flaenoriaeth i Dewi yn y cwbl, ond yn yr aruchel; ac yma yr oedd yn rhaid i Dewi roddi y flaenoriaeth iddo ef. Byr a sydyn yw arucheledd Dewi, ond y mae arucheledd Eben yn barhaus ac urddasol. Mewn trefnusrwydd cyfansoddiadol nis gellir cymharu y ddau fardd o gwbl. Gweithiai Eben ei gyfansoddiad yn ol y cynllun a dynai allan cyn dechreu canu; ond nid oedd gan Dewi yr un rheol na threfn o gwbl, heblaw ei ddarfelydd bywiog a nerthol, yr hwn a garlamai fel asyn gwyllt dros randiroedd eang dychymyg, gan ymorfoleddu yn ei ryddid direol. Yr oedd march barddonol Dewi yn dra amrywiol yn ei symudiadau: weithiau yn cerdded yn araf ddigon, os nad yn sefyll yn hollol ddigyffro; ond bryd arall yn cynhyrfu yn anghyffredin, yn neidio yn nwydwyllt tua'r nefoedd, neu yn llyncu y ddaear yn ei gynddaredd. Ond yr oedd march Eben yn fwy rheolaidd yn ei symudiadau; yr oedd yn llai nwydwyllt, ond yn fwy urddasol. Ni byddai, yn gyffredin, yn ymbrancio mor hoew a byw-