Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iog a march Dewi, ond ni byddai, o'r ochr arall, byth yn sefyll, ond yn ymsymud yn mlaen yn gadarn, diysgog, ac aruchel. Mewn gair, yr oedd Eben fel 'angel yn ehedeg yn nghanol y nef; " tra yr oedd Dewi fel comed wibiog, weithiau yn ymddangos yn drefnus yn mhlith y ser sefydlog, a phryd arall yn ymdroelli yn fympwyol yn ffurfafen ein llenyddiaeth. Rhyw Filtwn Cymreig oedd Eben. Ond na chamddealler ni. Addefwn gyda'r parodrwydd mwyaf fod Milton yn annhraethol ragori ar bob bardd Cymreig. Gwir fod gan Dewi Wyn, Goronwy Owen, a Ieuan Glan Geirionydd, ac eraill, ddarnau barddonol a ddaliant gymhariaeth hyd yn nod â cheinion penaf Milton; ond ni fedd un o honynt gyfansoddiad a ddeil gymhariaeth am foment â'r " Comus," neu y "Paradise Regained," heb son dim am y "Paradise Lost." Ond nid annheg nac anfuddiol fyddai ymholi pa un o'r beirdd Cymreig sydd yn dyfod agosaf ato, a phwy o honynt sydd yn tebygu fwyaf iddo. Y mae un dyferyn o'r môr o'r un natur a'r gweddill; ac felly y dywedwn ninau mai Milton y Cymry oedd Eben Fardd. Yr oedd mor dueddol i ymgartrefu yn yr aruchel, nes y barnodd rhai ei fod yn ddiffygiol mewn teimlad. Dygwyd yr un cyhuddiad yn erbyn Milton. Ond megys y mae erfyniad toddedig Efa yn y 10fed Llyfr o Goll Gwynfa" yn fwy na digon o amddiffyniad i Milton ar y pen hwn, felly y mae anerchiad torcalonus y fam i'w phlant bach" yn yr Awdl ar Ddinystr Jerusalem, yn fwy na digon i amddiffyn cymeriad Eben Fardd yn ngwyneb y cyhuddiad o ddiffyg teimlad a ddygodd rhai yn ei erbyn.

Nis gellir dweyd fod Eben yn rhagori yn nosbarth y caneuon. Buasai yn colli y dydd ar y pen hwn wrth ymgystadlu â llawer bardd o'r ail ac hyd yn nod o'r trydydd dosbarth. Yn wir, yr oedd ei feddwl