Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 129

gryraus ef mor dueddol i'r aruchel, fel pan geisiai wneud cyfansoddiadau o natur syral a thoddedig, ni byddai yn gyffredin yn cyfansoddi yn deilwng o hono ei nun. Y mae ei Farwnad i'r Parch. J. Jones, Taly- sarn, yn engraifft o hyn. Er fod ynddi rai desgrif- iadau tra nerthol, eto rhaid addef fod y gân ar y cyfan yn ddôf a difywyd, ac yn waelach na rnai Marwnadau a gyfansoddwyd i " Bregethwr y Bobr' gan feirdd llai galluog nag Eben. Mae yr un sylw yn dal yn gywir gyda golwg ar ei Emynau. Er ei fod mewn ambell benill yn canu yn deilwng o'r arch- emynwr seraphaidd o Bant-y-oelyn ; eto rhaid i ni ddweyd nad ,yw y rhan fwyaf o'r emynau hyn ond penillion lied gyffredin — a chyffredin iaivn, pan ystyriwn pwy yw eu hawdwr.

Mae y ^olygfeydd naturiol a amgylchant ddyn yn nyddiau ei ieuenctid yn dylanwadu i raddau helaeth ar ei gyiueriad fel aelod o gymdeithas; a diamheu fod yr un gallu yn dylanwadu i gryn raddau i ffurfio nod- wedd athrylith. Heb ymdroi gyda'r pwnc dyddorol hwn, ni wnawn ond prin gyfeirio at ddau fardd Oymreig sydd yn dangos cywirdebein gosodiad mewn modd tra tharawiadol. Y ddau fardd y cyfeiriwn atynt y w Alun a Dewi Wyn. Ganwyd y cyntaf yn Nyffryn swynol Maelor, ar lanau prydferth yr afon Alun, ac yno y treuliodd ei ddyddiau boreuol ; ond ganwyd a magwyd Dewi Wyn yn nghanol mynyddau cribog a cbreigiau gwylltion swydd Arfon. Wrth ddarllen gwaith y ddau fardd, canfyddwn yr un gwahaniaeth ag a welir yn lleoedd eu genedigaeth. Prydferthwch swynhudol Dyffryn Maelor sydd yn nghaneuon melusber Alun, a gwylltineb aruthrol gwlad Arfon sydd yn awdlau cedyrn Dewi Wyn. Hyfrydwch calon Alun yw son am " wlith Hermon," am tk ffrydiau Siloa," neu am y " per-lysiau yn llwyni P