Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

134 COFIANT

" Deuwn yn nesaf at yr Awdl sydd wedi rhoddi hawl i'w hawdwr i eistedd yn Nghadair Powys. Y mae yn agor ei destyn gyda dolefiad byrbwyll : —

• Ah ! dinystr ! dinystr yn donau — chwalodd Uchelion ragfuriau .'

Yna y mae yn dychymygu ei hun yn eistedd ar uchelfan, ac yn golygu Caersalem a'r bryniau a'r dolydd a'i hamgylchynai gyda gwresawgrwydd mawrygus. Y mae ei ddoniau darluniadol yn nodedig — prin y gallasai Hiram ddesgrifio adeiladaeth addurnawl y Demi gyda mwy o briodol- deb. Wedi arfer ei awen am dro yn y darluniadau prydfertbaf, y mae yn ymatal yn fyrbwyll, megis pe byddai wedi ei daro gan ddycbryn, wrth fyfyrio ar y trycbineb aneisor a ragdybiai fyddai canlyniad ym- ddygiad gwrthnysig y genedl Iuddewig a ' gair sicracb y prophwydi.' Yn y dyspeidiad pwysig rhwng nwydau gwrthwynebol y meddwl, sef llawenydd a galar, y mae yn deisyf ar wrthddrychau penaf anian i ymddistewi, ac fel i gyfranogi yn ei deimladau pruddaidd. Y mae y Canolfor, yr Iorddonen, ac hyd yn nod côr chwibano» gwigoedd Carmel yn cael eu gosod dan waharddiad tra byddai efe yn darlunio erchyll- dod dialedd dynesol y Nef ar ddinas a phobl wedi eu diofrydu i ddin- ystr. Y mae yn darlunio nesâd y fyddin Rufeinig gyda chryfder Polybius, a than Homer. Nid ydyw yn aros cyhyd ar ddychrynfeydd y pla, y rhyfel a'r newyn, a rhai o'i gydymgeiswyr, nac yn dilyn Josephus mor gaethiwus a llawer o honynt ; ac nid ydyw fel hwy yn rhoddi diweddglo trwy son am adferiad yr Iuddewon, y Jerusalem newydd, a'r mil blynyddoedd. Wedi dilyn ei destyn hyd oni welodd • Ddinas y Brenin mawr a mynydd ei Sancteiddrwydd ' yn garnedd heb drigianydd, a'r bwystfilod ac adar ysglyfaethus yn ymgynull at eu gwledd, y mie yn awr yn Hiweddu ei Awdl mor fyrbwyll ag y decbreu- odd hi. Nid ydym yn ystyried y byrbwylldra hwn yn fai, ond yn byt- rach yn ardderchawgrwydd. Ei destyn oedd ' Dinystr Jerusalem,' a dim yn ychwaueg."

Wrth gymharu y feirniadaeth ganmoliaethus uchod â ll.yth.yr Gwallter Mechain at Dewi Wyn, yr hwn a ddyfynwyd eisoes, yr ydym, ar yr olwg gyntaf, yn canfod rhywbeth tebyg iawn i anghysondeb. Yn y feirniadaeth ni roddir ond canmoliaeth ddigymysg, ond yn y llythyr cyfeirir at amryw wallau a ystyrir yn bwysig. Pa fodd y gellir cysoni y feirniadaeth a'r llythyr? Oredwn mai yr unig ffordd deg i wneyd