Yn y penill nesaf ato cawn:—
"Lluon i'w 'nabod, llon eu wynebau."
Yr oedd angen am y geiriau "i'w 'nabod," er mwyn iddynt gynghaneddu â'r gair olaf yn y fraich. Yn y darn Cywydd dilynol, ni gawn:—
"Ac efryd yn y Gyfraith
Ddofn a gwir, Ddeddf enwog iaith."
Nid yw "ddeddf enwog iaith" eto yn dda i ddim ond i ffurfio cynghanedd. Diweddir y trydydd Hir a Thoddaid gyda llinell o'r fath dlotaf:—
"O! ddinas wiwlon, ddaionus, olau."
Terfynir un penill gyda'r llinell,
"Effro y sylwaf ar ei phreswylydd,"
heb fod un math o angen am dani, ond yn unig i lenwi gwagle. Ychydig yn mhellach yn mlaen, cawn y llinellau canlynol:—
"Do, rhag—draethwyd y rhwygiad i'r eithaf,
Gan Grist, ddwyfol, urddunol hardd Wiwnaf."
Mae yr olaf o'r llinellau uchod yn llanw bron i gyd; a cheir engraifft o'r un peth yn y llinellau canlynol:—
"Lladron, llofruddion yn llu afrwyddawl.
Ysant y ddinas, O! nid dyddanawl!"
Llawer a ganmolwyd ar y llinell,
"Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian!"
a diameu y bydd ambell bleidiwr gwresog i'r gynghanedd yn barod i ddweyd ein bod yn rhyfygu pan ddywedwn yn wylaidd nas gallwn yn ein byw ystyried y ddau air cyntaf o'r llinell yn ddim byd gwell na geiriau llanw.
Cynwysa yr Awdl wallau ieithyddol hefyd. Yn y trydydd Hir a Thoddaid symudir o'r trydydd i'r