Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ail berson, ac yn ol i'r trydydd, yn rhy ddisymwth. Yn y llinell,

"Ei air gorenwog wna i'w mur grynu,"

buasem yn disgwyl cael ansoddair mwy priodol na gorenwog, er rhoddi cyfrif am y crynu. Wrth son am y meirch, dywedir: —

"Eu llygaid tanbaid bob tu oll tanynt yn melltenu."

Mae yn amlwg mai er mwyn cynghanedd yn unig y defnyddiwyd y gair tanynt. Yn y llinellau canlynol: —

"Ac o furiau y ddinas cyfeiriant
Dua'r mynyddoedd i droi am noddiant,"

defnyddir y trydydd person unig o'r prif-air dua, yn lle yr arddodyn tua, ac felly dywed y bardd betlh hollol wahanol i'r hyn a feddyliai, pan y buasai yn ddigon hawdd osgoi y gwall, a gofalu am y gynghanedd hefyd, drwy ddweyd,

"Tua'r mynvddoedd er troi am noddiant,"

neu,

"Hyd i'r mynyddoedd i droi am noddiant."

Mae y llinell gyntaf hefyd yn wallus. Oddiwrth furiau y ddinas a olygid, ac nid o'r muriau. Y mae prifair yn eisieu yn yr Englyn sy'n dechreu fel hyn:—

"Aerwyr, ymbleidwyr heblaw," &c

Defnyddir yr ail berson unigol, yn y modd mynegol, yn lle y ffurf anherfynol, yn y llinell a ganlyn:—

"Bonedd a gwreng yn trengi." (Yn lle trengu)

Buasai ambell feirniad Cymreig yn collfarnu yr Awdl oll, ar gyfrif y gwallau hyn, a'u cyffelyb; ond yr ydym ni, yn gyson â'r rheol a osodasom i lawr yn y dechreu, yn gallu mawrygu athrylith y bardd, tra yn gorfod condemnio ei wallau. Yr ydym, wedi y cyfan, yn ystyried yr Awdl yn gyfansoddiad godidog, am ei bod yn cynwys darnau o farddoniaeth o'r iawn ryw—