darnau a fyddant byw gyhyd a'n hiaith. Mae y darnau hyny yn ddigon hysbys heb i ni eu dyfynu; ond mae'n debyg mai y darn goreu yn yr holl Awdl yw yr un sy'n dechreu gyda'r llinell:—
"Ys anwar filwyr sy yn rhyfela,"
ac yn terfynu gyda'r llinell anfarwol:—
"Môr gwaed ar y marmor gwyn."
Nis gallwn lai nag edmygu chwaeth bur y bardd, wrth gofio ei fod yn canu ar destyn mor erchyll—testyn ag yr oedd mor anhawdd ei drafod heb fyned dros derfynau coethder. Wrth ddarllen y feiriniadaeth ar destyn cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf, gwelem fod un o'r ymgeiswyr wedi troseddu deddfau chwaeth yn y modd mwyaf eithafol, a hyny pan yn canu ar un o'r testynau tyneraf a phrydferthaf a fu erioed—testyn mor brydferth a hwyrnos ganaid yn y Gauaf, pan fydd lleni y tywyllwch yn gorchuddio y byd ar y naill law, a gogoniant serawg y nefoedd yn ymddangos ar y llaw arall. Dyna fel yr oedd pethau yn bod, dybygem ni, mewn cysylltiad ag alltud Patmos y ddaear yn tywyllu a'r nefoedd yn goleuo; a gresyn oedd i neb droseddu deddfau y chwaeth buraf wrth ganu arno. Ond anhawdd iawn, yn ddiau, oedd cadw ar hyd canol llwybr chwaeth wrth ganu ar y fath gyflafan arswydus a dinystr y ddinas sanctaidd; ac yr oedd yr ymgeisydd ail oreu wedi troseddu cymaint yn y ffordd hon, fel nas gallai awdwr athrylithgar y "Drych Barddonol gael engraifft well o ddiffyg chwaeth na'i ddyfyniad o Awdl yr ymgeisydd hwnw. Ond bu Eben yn dra llwyddianus i osgoi y gwall hwn. Yn wir, yr ydym yn credu na chynwysai ei Awdl yr un gair a allai dramgwyddo y chwaeth buraf, pe gadewid y ddwy linell ganlynol allan o honi:—
"Bu â chig y beichiogion—frasâu gwêr
Hyd ryw nifer o'r adar annofion!"