Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae yn dda genym feddwl, pa fodd bynag, nad ydyw bri Eben, fel bardd, yn dibynu yn gwbl nac yn benaf ar yr Awdl hon. Nid rhyw lawer o grebwyll a geir ynddi. Rhoddi bywyd barddonol yn adroddiadau hanesyddol Josephus a wneir gan mwyaf; a phan ystyriwn ëangder y testyn, rhaid i ni ddweyd fod y cyfansoddiad yn gywilyddus o fyr. Canodd Homer dros bymtheng mil o linellau meithion ar warchaead Caerdroia, er na chymerodd i'w Arwrgerdd ond oddeutu haner cant o ddyddiau y rhyfel gwaedlyd hwnw. Pa beth ynte ydoedd rhyw bedwar cant ac un ar ddeg a thriugain o linellau i drafod y gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechreu y byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith?"

Sylwn yn nesaf ar yr Awdl ar "Gystuddiau, Amynedd, ac Adferiad Job," sef testyn cadeiriol Eisteddfod y Gordofigion yn Llynlleifiad, Mehefin, 1840. Y beirniaid oeddynt y Parch. E. Evans (Ieuan Glan Geirionydd), ac Ellis Owen, Ysw., Cefn y Meusydd. Dyfynwn y rhan hono o'u beirniadaeth ag oedd yn dal cysylltiad ag Awdl Eben:—

"I Zerah, sef awdwr yr Awdl hon, y mae y Beirniaid wedi penodi anrhydedd y Gadair; ac ar y cyfansoddiad y maent yn cynyg y sylwadau canlynol:—

"Yn y llinellau cyntaf y mae yr awdwr yn rhoddi cynwys—drefn o'r holl destun nodweddiad ei wrthddrych—ei gystuddiau, a'i adferiad. Yna y mae'r awdwr yn myned rhagddo i'w ddesgrifio ef yn y llawn fwynhad o'i fawr gyfoeth a'i lwyddiant. Mae'r rhan yma o'r gwaith yn cynwys darluniad godidog, ac yn amlygu helaethrwydd dawn ddesgrifiadol y cyfansoddydd. Mor ardderchog y mae efe yn gosod allan deleidion amrywiaethol gwlad y pendefig dwyreiniol! Braidd na feddyliem fod yr holl olygfa yn cael ei lledu ger bron ein llygaid, gan nodiannu pob gwrthddrych a ddichon wneuthur y weledfa yn ddymunol ac yn serchiadol. Yna arweinir ein sylw at y Patriarch hybarch, fel penaeth y wlad freiniol hono, yn meddiannu yr amrywiaethol fendithion oedd yn ei amgylchynu, yn ddedwydd ynddo ei hun, ac yn achos dedwyddwch i eraill. Wedi hyn y mae'r Bardd, trwy rin ei athrylith