Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 145

j*

Gydag awyddfryd awchus y prysurwn yn mlaen i sylwi ar brif orchestwaith bardd Olynnog— ar gyfan- soddiad y gallai unrhy w genedl f od yn falch o'i arddel, sef ei Bryddest benigamp ar yr " Adgyfodiad." An- fonwyd y Bryddest hort i ymgystadlu am gadair Eisteddfod Freiniol Rhuddlan ; ond ymddengys ei bod islaw neu ynte uwchlaw sylw y beirniaid dys- gedig a pharchus, canys ni soniwyd gair am dani o gwbl yn y feirniadaeth ! Bu rhai yn ceisio llychwino bri ei hawdwr, drwy haeru nad ydoedd yn ddim ond cyfeithiad o Pollok' s Course of Time. Yn wir, cly w- som fardd enwog yn dweyd ei bod yn cynwys cyf- ieituiad o "areithiau cyfain " o waith Pollok. Er mwyn cael gafael ar y gwirionedd ar y pwnc, aethom i'r drafferth o gymharu y ddau gyfansoddiad ; ond methasom weled dim yn Mhryddest Eben ag oedd yn ymylu ar fod yn llen-ladrad. Mae yn wir fod Eben yn tebygu i Pollok yn ei gynllun, ac y mae yr un mor wir fod Milton yn debyg i Homer yn nghynllun ei " Goll Gwynfa." Nid ydym yn amheu nad wrth ddarllen Pollok y cafodd ein bardd yr awgrym cyntaf am gynllun dyddorol ei 44 Adgyfodiad." Mae peirianwaith y " Course of Time " yn ymddibynu yn benaf ar y dyb, fod trigolion bydoedd eraill yn cymeryd dyddordeb yn amgylch- iadau ein byd ni, ac yn awyddus am gly wed hanes y teulu dynol. Mae peirianwaith " Yr Adgyfodiad " yn ymddibynu ar yr un peth. Mae y ddau fardd yn cydgyfarfod ar y tir hwn, ond gwahaniaethant yn fawr yn eu dull o gario eucynlluniau allan. Gwahan- iaethant, i ddechreu, mewn Amser, Dewisodd Pol- lok gyfnod pell ar ol dydd y farn, ond " Oyfran o'r Dydd Olaf " y w yr amser a ddewisodd Eben. Y mae Pollok yn desgrifio ysbryd perffeithiedig yn cyraedd y nefoedd, o fyd pellenig, ac yn dymuuo cael eglur- R