Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

146 COFIANT

had ar y pethau rhyfedd a welsai ar ei daith, megys y mur tanllyd o adamant — y pryf nad yw yn marw — raarwolaeth dragwyddol — uffern, a'i phreswylwyr dynol, &c. Y mae Eben hefyd yn desgrifio yshryd- ion perffeithiedig o fydoedd eraill yn cyrhaedd y nefoedd, a hyny pan oedd " yn wag raewn cynihar- iaeth," cyn i osgordd ogoneddus y farn ddychwelyd. Yr oedd yr ysbrydion hyn, tra ar eu taith " trwy ddi- sathr ororau wybrenau pellenig," wedi cael ami awgrym gan eu bengyl-weinyddion am y pethau a ddigwyddent ar y ddaear, nes peri iddynt deimlo awydd am glywed mwy o hanes y teulu dynol; a phan welsant y dychweliad gogoneddus o'r farn, aeth yr awydd hwnw yn gryfach fyth, nes y dymunasant gael eglurhad a desgrifiad cyflawnach o'r digwydd- iadau mawrion a gymerasant le ; acer mwyn cydsynio a'u cais cynelir cyfarfod dyddorol, yn yr hwn y traethir rhyfeddodau, trefn, a natur yr Adgyfodiad i'r 44 ysbrydion newydd-ddyfodol," gan sant o oes olaf y ddaear. Oyflawnir cais 44 ysbryd newydd-ddyfodol" Pollok drwy i ddau o feibion Paradwys ei arwain i ddeildy Bardd hynafol, yr hwn oedd yn un o hiliog- aeth Adda, ac y mae y Bardd yn esbonio y golygfeydd rhyfedd a gawsai y 44 newydd-ddyfodiad " ar ei daith, ac yn cydsynio i draethu hanes y teulu dynol iddo ef a'i gyfeillion. Mae yn amlwg fod Eben yn 11a wn mor wreiddiol yn ei gynllun ag ydy w prif-feirdd gwledydd eraill, ac y mae yn f wy gwreiddiol na 11a wer o honynt yn ei syniadau. Mae yn anhawdd cael dau awdwr o arddull mwy gwahanol nag Eben Fardd a Pollok. Mae yr olaf yn llawer mwy syml na'r cyntaf, ac yn rhagori yn benaf yn y tyner. Y mae Eben, drachefn, yn llawer grymusach na Pollok, ac yn rhagori yn benaf yn yr aruchel. Wrth gymharu 44 Adgyfodiad " y naill â " Course of Time " y Hall, methem weled y