tebygolrwydd lleiaf yn yr arddull, ac mewn un man yn unig y gwelsom debygolrwydd mewn meddwl, ac yr ydym am ddyfynu y darn hwnw, a'r dernyn Seisnig hefyd, fel y caffo y darllenydd gyfle teg i farnu a ellir cyhuddo y bardd Cymreig o lên-ladrad. Dyfynwn, i ddechreu, y desgrifiad grymus o floedd yr archangel, sydd yn y Pedwerydd Llyfr:—
"Edrychai'r archangel, gan droi yn urddasol,
At bedwar ban daear, a'i ddwylaw'n estynol;
Ac yna banllefai'r fath 'floedd' gref a threiddgar,
Ag ydoedd glywadwy i holl gyrau'r ddaear!
Ewropa a glywodd o ystlys i ystlys,
O'r creig—drumau Urol i'r lewin Orynys;
A chlywodd pell barthau'r Ynysoedd Prydeinig,
O'r Tawchfor trafnidiol i'r feisdon Atlantig;
Ac Affrig a glywodd, o grasdiroedd Ajan,
Hyd lle mae y Gambia yn gwlychu y morlan;
Cyrhaeddodd y ddolef' dros freisdiroedd Asia,
Atebwyd ei hadsain yn nghreig Himalaya;
A chwrel—gyfandir Awstralia a glywodd,
A thros y Tawelfor yr adsain ehedodd!
Gan dreiglo dros fanau yr Andes beneira,
Trwy ëang gyfandir mawreddus Columbia;
Pob ynys a llynges a glywsant y bloeddio:
Ni cheid man o'r ddaear lle nad oedd yn treiddio."
Fel cyferbyniad tlws i'r desgrifiad uchod, dyfynwn y llinellau canlynol:—
"Yn nhôniad darfyddol yr udgorn—chwyth seingar,
Swn miwsig gwahanol gyrhaeddai i'r ddaear—
Milfiloedd o leisiau, mewn cydsain berorol,
A pherffaith gysondeb, ond mwy lleddf a dynol,
A ddeuent yn nes—nes o'r nenol bellafion,
Ac mal y dynesynt cryfhâi eu pereidd—dôn
O'r dechreu ni chlywid ond sain bell anghroewaidd,
Ac eto yn llawn o dyverwch seintiolaidd;
Mwyhâi, wrth ddynesu, nes chwyddo'n fôr cerddgar,
O hoenus orfoledd drwy holl awyr daear!
A'r côr gogoneddus, melyslais, oedd yma,
Yn chwareu mor lonol eu pêr Aleluia!