Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A'i chandryll arwyneb yn enbyd i'w gerdded
Gan annhrefn plith draphlith o ddiphwys ac abred,
Ac yma ac acw'n ddychrynllyd ymagor
I geunant, a llynelyn, a safnrwth agendor!
O'u gosail dwfnsuddol dychlamai mynyddau,
Gan godi cyfandir ynglŷn wrth eu gwreiddiau.
Maluriwyd carcharau y gwallgof gorwyntoedd,
Yn hynt eu cynddaredd chwyrnluchient finteioedd
I dywyll ororau cythryblas yr entyrch,
Gan chwifio celeiniau yn gymysg â'r tywyrch."

Nodedig o dlysion ac awgrymiadol yw y llinellau canlynol:—

"Blaenorol fethiantwch, anffurfiaeth, a gwendid,
Gynt wnelsai'r corff dynol yn gartref pob gofid,
A wywodd yn impiad ieuenctyd ysbrydol,
A chan fywyd llynewyd pob peth ag oedd farwol.
Unionai y cefngrwm mor hardd a golygus
A cherub ardderchog cydluniaidd a hoenus;
A thafod y mudan chwareuai mor gywrain
Ar ddifloesg hyawdledd a'r sereiph eu hunain!
Y gwyneb cystuddiol wasgarai belydrau,
Gan wrid anfarwoldeb yn lliwio y gruddiau!
Y claf ddeuai allan o'i wely-ystafell,
A iechyd tragwyddol a wisgai fel mantell."

Nodasom liaws o ddarnau eraill i'w dyfynu, a rhai o honynt, ond odid, yn rhagori ar y rhanau a ddyfynwyd eisoes; ond rhaid i ni bellach ymatal. Nid y lleiaf o ragoriaethau amrywiol ein bardd yw ei fedrusrwydd nodedig mewn gair-luniaeth (word painting) Gallai ffurfio geiriau cyfansawdd newyddion, gyda'r rhwyddineb mwyaf, pa bryd bynag y byddai galwad am hyny. Mor gelfyddgar a gorchestol yw y llinellau hyn:—

"A'r môr a anfonai yr eiddo i'r wyneb,
Gan dawel ymorwedd dan newydd-ddynoldeb,
Ysbrydol ddamsangiad pa un allai gynal
Mor berffaith ddiymsawdd a phalmant o risial"

Mae y gallu gair-luniol hwn yn dysgleirio yn brydferth yn "Dinystr Jerusalem," ac yn "Job," ond y mae yn