Fyned yn un o fanau—hynotaf
Natur a'i chroniclau;
Ymlaen ar gof miliynau—caiff Patmos
Hir, hir aros yn mhlith claer ororau:
Hi erys yn gu oror
Yn nheg wên seren lwys Iôr.
Ac os hoff oedd y deuddeg ser—a geid
O gylch Haul Cyfiawnder,
Onid hon, â'i gwawl tyner,—oedd nesaf
I wyneb gloewaf ein Bywiog Leuer?
Yn ei rhawd taenu'r ydoedd―oleuni
Cain lenyrch y nefoedd,
Ar ein byd, a hyfryd oedd
Ei gwên i barthau gannoedd;
A'i gwawl clir a hir barha—
Ein daiar ni adawa
Hyd ddydd barn—hyd ddydd y bo
Ei gwedd yn llwyr ymguddio
Yn nhirf belydrau dirfawr
Rhyw olau mwy—yr HAUL MAWR!
GOLYGFA I.
Ynys Patmos—Ioan yn dychwelyd yn mrig yr hwyr o'r gloddfa, lle yr ymdrechid ei orfodi i weithio ar y Sabbath, ac yn cyfeirio ei gamrau yn llesg tua'r ogof y trigai ynddi.
IOAN.
Dros Batmos y nos sy'n awr
Yn lledu lleni llwydwawr.
Y moelydd llwm a wylant,
Neu yn y niwl huno wnant;