Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar gil y ceir y gwawl càn,
A thywyllwch ddaeth allan,
Er hynaws doi truenus dir,
Truenus gan haint yr anwir:
Gwlad caethion, blinion gan bla,
O'm golwg a ymgilia;
A cheir agwedd ei chreigiau
Yn mhob llun yn ymbellhau.
Prysuraf, ac âf i gôl
Y bwthyn annobeithiol
A geir, nid gan drugaredd
Blin ddynion gwylltion eu gwedd,

Ond gan graig—y graig a rydd—ei nodded
Defnyddiol im' beunydd ;
Ond calon dynion un dydd
Nis gyr ond poenus gerydd.

Dros y dwr, â dyrys daith,
E lama'r meddwl ymaith,
I syllu ar y llu llon
O swynion brofais unwaith
O, frodyr cofio'r ydwyf,
Lle bynag, bynag y b'wyf,
Am danoch, ond Och! nis daw
Cam neb o'r cwmni heibiaw:
Ni chaiff air na chôf—arwydd
O'ch cur, eich llafur, na'ch llwydd.
Phylip a'i orhoff olwg!
Fe'i gwelaf er gwaethaf gwg;
A thrwy ddrych ceinwych y co',
Mor deg yw fy mrawd Iago;
Yn ei dro daw Andreas,
A'i wedd hyf yn gryf mewn gras;