Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A Phetr ddewr, dewr a da—
Ai tybed nad ateba?
Na ni ddaw i mi'n nydd och
Hanes yr un o honoch;
I dranc merthyrdod a droes
Arch—yni mawr eich einioes.

Ond dedwydd hynod ydych
Fry'n y nef, heb fraw na nych.

Minau sydd beunydd yn bod—mal o dan
Gwmwl dig y Duwdod;
Yn ddyddiawl anhaeddawl nôd
Gan erfawr wg annorfod.

O gyraedd pob rhagorion—ac i wlad
Greigiog, lom, echryslon,
O olwg fy anwylion,
A myrdd gwaeth, ysywaeth sôn.

O faes fy llafur, a fu
Yn faes mawrhau fy Iesu,
Ydwyf yn ysgaredig
I'r maes sy' dan ormes dig.

Ow! Ephesus hoffusawl—O! ei saint
Nodau'm serch beunyddiawl,
A'i dynion anghrediniawl,—ni chaf fl
I chwi gyhoeddi y GAIR tragwyddawl.

Ond er henaint, yn druanwedd, gweithiaf
Yn gaeth ddiymgeledd;
A'm gwobr erchylldrom yw gwedd
A geiriau di—drugaredd.

Y sanctaidd ddydd, dydd y dyddiau,—y dydd
Y daeth Crist o'i rwymau,
Ni wna hwn ddim ysgafnhau—fy nhrallod,
Ond daw yn gawod o donog,waeau.