Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mewn cur, mewn llafur a llwch,
Anurddo gwên ei harddwch
Wneir gan y rhai geir yn gaeth,
Yn fud dan dost orfodaeth
Eu rheolwyr tra chreulon,
Na fawrhant ddeddfau yr Iôn―

A chadwant mewn pechodau—eu hysig
Gaethweision drwy'r dyddiau;
A mynent wneyd i minau—roi sarhad
Ar nodweddiad y goreu o'n dyddiau.

Heddyw, heb anufuddhau,
Derbyniais eu dirboenau;
A'u diriaid ŵg drwy y dydd
A brofais yn bur ufudd:
Ond ufudd i wneyd ofer
Neu wael iawn waith ar wyl Nêr,
Ni bum—ni byddaf, tra bo
Y bywyd hwn heb wywo.

Hen iawn wyf, a than glwyfau,—mawr yw'm nych,
A mynych fy mhoenau;
Tra'n gruddfan dan erch donau,—tymhestloedd,
A rhyw fydoedd o dramawr ofidiau.

Ond taraned trueni,—ni syrthiaf
Yn swrth dan fy nghyni;
Ond rhoi clod o'r caledi
I enw fy Iôr a wnaf fi.

Os heb alar fy ysbeilio—a wnant
O ddydd fy Nuw, eto
Mi honaf yma heno—ran o'r wyl
A'i gwenau anwyl, tra'u gwg yn huno,