Ond odid nas dywedai
Gyfrinach a gyfranai
Lawenydd pur adlonai
Y truan gwan a gwynai;
Ac hwyrach yr agorai
Dywyllwch, nes y deilliai
Dyfodiant fel sant i'w sedd—
A'i agwedd cudd amlygai.
Hwyrach fod hyfryd oriau
O'n birnos oer yn nesâu:
Y dygir storm erledigaeth—yn wyl
Dawelwch Crist'nogaeth;
Y chwal dorau caerau caeth,
A grym ysawl gormesiaeth.
Rhaid y bydd, ryw ddydd i dd'od—fawr elw
I'w farwolaeth hyglod:—
Ond beth, O! pa beth sy'n bod?
Fy anian fedd nwyf hynod!
Ai'n y corff ar hyn y caf
Fy hun! I bwy gofynaf?
O herwydd y daearol—ymguddia
O'm gŵydd yn y nefol;
Nid wyf yn gwel'd ond dwyfol
Luniau cu yn mlaen ac ol.
LLEF FAWR (fel llais udgorn).
Awdwr diddechreu ydwyf,
Diddiwedd ryfedd Ior wyf.
Yr hwn a weli mawrhâ——
Yn fanwl ysgrifena;
Ac yna'n union anfona—y rhol,
O les oesol, i saith eglwys Asia.