206 COFIANT AWDL: "ALBERT DDA." (I Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.) RHAGNODIAD. Gan mai am "Awdl er Coffadwriaeth," ac nid am "Awdl Farwnad," y cynygiwyd y wobr, barnodd yr awdwr yn ostyngedig nad oedd yn angenrheidiol na theg iddo gadw yn hollol at reolau yr Alareb. Gorph. 6ed, 1863. RHAN I. "Oblegid yr oedd efe yn wr da," Act. xi. 24. A! Y NOS, 'rwy'n mynwesu Tawelwch dy d'w'llwch du, Er o'th gylch, yn rhithiog wau, Wgus gâd o gysgodau : Eiliw yw'th wedd anhylon O nos erch y fynwes hon- Nos o boen a naws y bedd, Nos dywyll nad oes diwedd I'w horiau tost a hirion Yma i brudd ysu'm bron. Y nefoedd sydd yn nofiaw Yn drist yn ei galar draw; Mae ei ser claer am siarad Eu cwyn am y mwyn a'r mad. Ha leuad, nid wyt lawen- Wylo yr wyt, O! loer wen: Heno mae'n dda iawn i mi Dy gu amnaid-dy gwmni, Tra'n uno truan enaid Miloedd o bobloedd heb baid, I wylo, â grudd welw-wawr, Am golled sydd-fydd yn fawr ; Colled sy'n llawn picellau Och a phoen, wrth ei choffhâu. Pam mae'r llwyd deyrn arswydol-lywydda Gyda chleddyf marwol, Eleni mor elynol-a gwrthnaws, I'n hynaws, hynaws deulu brenhinol ? E ddygai o'n plith y Dduges-o Cent, Mam ein cain Frenhines; Un hynod iawn ei hanes,-wnai beri Oesawl ddaioni, urddasol ddynes!
Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/218
Gwedd