AT Y DARLLENYDD
O'r diwedd wele Weithiau hir-ddysgwyliedig y diŵeddar brif-fardd, Risiart Ddu O Wynedd, allan o'r wasg. Methasom ddyfod o hyd i'w farwnadau buddugol i'r Parch. S. Griffiths, Horeb, a Glan Alun; ac mae amryw ganeuon eraill wedi myned ar ddifancoll.
Gan y dysgwylir gwerthu cryn nifer o gopiau o'r llyfr yn yr Unol Dalaethau, a chan fod y rhan fwyaf o'n pobl ieuainc yma yn deall Saesoneg yn well na Chymraeg, barnwyd y byddai yn well i'r Cofiant fod yn Saesoneg, er eu mwyn hwy.
Gan obeithio y bydd i ddarllen ei farddoniaeth aruchel, a hanes y fath fywyd llafurus a rhinweddol, symbylu llawer o'n hieuenctyd i efelychu ei ragoriaethan.
Y gorphwys,
Yr eiddoch yn genedlgarol,
R. MAWDDWY JONES.
Portland, Oregon, Mai, 1906.