Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneir mynydd o grugyn y wâdd. Ni fwriedir cymhwyso y sylwadau hyn, yn eu helaethrwydd, at yr hyn a fynegir yn y traethawd hwn, canys yr ydym yn medda syniadau hynod o eang, parchus, ac anwyl am Eben Fard. Er hyny da yw cadw at reolau cymedroldeb yn ein clodforedd o'n llenorion, gan fod llygaid cenhedloedd eraill arnom trwy gyfrwng yr Eisteddfodau. Yr ydym yn wrth ddrychau cryn lawer o ddirmyg a gwawd o achos ein hymffrost, pryd nas gallwn ddangos cymaint ag un cyfansoddiad barddonol, neu ryddiaethol, a ellir ei drosglwyddo i iaith estronol, ac y caem anrhydedd oddiwrtho. Ysgrifena "Ioan" yn rhwydd a naturiol, ond nid yw yr atalnodiad bob amser yn ymddangos yn gywir. Ar y cyfan dymuna y beirniaid hysbysu y buasai yn dda ganddynt wobrwyo pob un o'r traethodau hyn ar Eben Fardd, ond hyny nis gall fod. Am hyny nid oes ond rhoddi y wobr i'r traethawd lleiaf o wallau, tra yn meddu cyfartaledd mewn teilyngdod. Y traethawd hwnw yw eiddo "Gwyneddwr."

EBEN FARDD!

Dyna enw sy'n anwyl i glust pob gwir Gymro, ac megys olew gorfoledd i'w galon; dyna enw a bery yn fiwsig soniarus rhwng ein bryniau, yn swyn melusber i'n cenedl, ac yn air teuluaidd ar hyd a lled ein gwlad, tra bydd son am "ein gwlad, ein hiaith, a'n cenedl." Yr oedd Eben nid yn unig yn ddyn mawr, nid yn unig yn ddyn mwy na'r cyffredin o'i gydwladwyr, ond yr oedd hefyd yn ddyn mawr yn mhlith enwogion; yr oedd nid yn unig yn Saul frenin yn mhlith y lliaws, ond yr oedd, ar rai ystyriaethau pwysig, yn dalach o'i ysgwyddau i fyny na llu mawr o ddynion cyhoedd- us ein gwlad. Tywysog ydoedd Eben-tywysog yn mysg ein llenorion, a thywysog mewn modd arbenig yn mhlith ein beirdd. Dywed un awdwr, yn ei Alareb i'r diweddar Barchedig John Jones, Talysarn—

"Er fod genym lawer Ioan,
Nid oes genym ond un John."