Felly gellir dweyd am Eben, "Er fod genym lawer Ebenezer, nid oes genym, er hyny, ond un Eben Fardd." Diamheu hefyd y gallwn chwanegu mai un fydd genym byth. Nid ydym, mewn un modd, am haeru na chyfyd dynion mor fawr ag yntau yn ein gwlad eto. Na, yr ydym yn gobeithio y bydd i Gymru fagu dynion mwy nag ef yn y dyfodol; ond eto meiddiwn sicrhau mai nid Eben Fardd fydd yr un o honynt. Bydd pob un yn sicr o fod yn dra gwahanol iddo ef mewn llawer o bethau; ac os digwydd i rai o honynt ragori arno mewn rhai ystyriaethau, fel y gwnant yn ddiamheu, byddant yn mhell ar ei ol mewn ystyriaethau ereill. Rhaid i ni ddweyd am dano, yn iaith y digyffelyb Shakespeare:—
He was a man, take him for all in all,
I shall not look upon his like again."
Y mae hanes y cyfryw berson, ynte, yn sicr o fod yn
bwysig a dyddorol, a hyny mewn mwy nag un ystyr.
Y mae hanes y fath gymeriad yn werthfawr a dyddorol ddigon ynddo ei hun, ac yn rhwym o fod yn dra
gwerthfawr a dyddorol hefyd yn ei gysylltiad â hanes
ei wlad. Y mae hanes dyn fel Eben yn taflu llawer
iawn o oleuni ar hanes ei genedl yn y cyfnod yn mha
un y bucheddai. Mae llenyddiaeth cenedl yn arddangosiad o'i chymeriad; ac y mae hanes bywyd y
fath wladgarwr trwyadl, y fath lenor gwych, a'r fath
fardd penigamp ag ydoedd y prif-fardd Clynnog wedi
ei gymmhlethu mewn modd annatodadwy â hanes ei
wlad a helyntion ei llenyddiaeth yn ystod ei yrfa
lenorol ef.
Dyna ddigon a gormod o raglith ar destyn mor hudol. Awn yn mlaen bellach, ynte, i gyflawni y gorchwyl hyfryd-bruddaidd o "draethu ei oes ef," drwy gofnodi yr hyn a wyddys am amgylchiadau ei fywyd. Os gwir y chwedl fod angel gwarcheidiol