Gallem fentro ymddiried ynddo. Nid oedd berigl iddo'ch bradychu, ac ni chaech ef yn siarad yn fach yn eich cefn ac yn gwenu yn eich wyneb. Os byddai gan Mr. Adams rywbeth i'w ddywedyd am arall, ac eisiau ei ddywedyd, dywedai yn ei wyneb cyn y dywedai wrth arall yn ei gefn. Gallai un fentro myned ato i ddywedyd ei gŵyn, a gofyn ei gyngor heb ofni clywed y peth drannoeth o enau un arall, a pharod y cafodd pawb ef i wneuthur rhan cymydog pan fyddai angen am hynny. Byddai â'r wên yn wastad ar ei wyneb, a geiriau caredig yn diferu dros ei wefusau.
Nid oedd yn ymhongar mewn unrhyw gylch, ond yn gyfeillgar â phawb. Tawedog iawn oedd gyd â dieithriaid, ond yn rhydd a chyfeillgar gyd â'r rhai yr oedd wedi dyfod i'w hadnabod. Byddai yn hoffi trafod cwestiynau â'r rhai hyn. Ni allai oddef aros yng nghymdeithas dynion a gyfrifai'n ffals, dynion na allai ymddiried ynddynt. Gyd â rhai felly, hawdd fyddai i ni oedd yn ei adnabod wybod, heb iddo ddywedyd, fod yn y gymdeithas ar y pryd un ag yr oedd ef wedi ei bwyso a'i gael yn brin. Ond pan fyddai nifer oedd yn gyfeillion iddo gyd â'i gilydd, byddai mor rhydd ac agored yn datgan ei farn am fater a pherson. Byddai yn ddifyr bod yn ei gymdeithas ar adegau felly. Yr oedd yn gyfaill diddan ar yr aelwyd, ond nid oedd croeso mawr i neb aros yn hir yn ei studi oni fyddai y cyfaill a ddeuai i mewn yno yn un a allai fyned i mewn i'r pwnc y byddai ar y pryd yn ei astudio, ac i un felly yr oedd pob croeso. Gwnâi ddefnydd o bob cyfaill, a chyfrannai yntau i'w gyfaill ei ran yntau o'r mêl. Ymdaflai yn gwbl i'r mater a gymerai mewn llaw i'w astudio, a mynnai gael i'w afael bob llyfr y byddai mewn angen amdano i ddwyn pob congl o'r pwnc i orwedd yn esmwyth yn y lle y credai ef y dylai orwedd. Gwyddwn mai Mr. Keri Evans a Mr. Pari Huws oedd y ddau gyfaill yr hoffai