fwyaf i drafod pethau o'r fath â hwy. Nid oedd yn ŵr a roddai gyfaill o'r neilltu ar chware bach. Yr oedd yn llwyr yn ei gyfeillgarwch fel yn ei astudiaeth.
Cawsom wledd ac adeiladaeth o dan ei weinidogaeth. Fel pregethwr yr oedd yn syml ac urddasol, yn gosod i lawr y pwnc yr oedd yn myned i'w drafod, ac yn ei osod i lawr yn glir. Nid oedd ganddo unrhyw arddull neilltuol o areithyddiaeth, dim ond dull plaen ac eglur o drafod y pwnc fyddai ganddo yn y bregeth, ond gwnâi hynny'n ddengar. Ar y cychwyn prin y byddai yn symud ei gorff; weithiau codai ei fraich neu ysgydwai ei law dde, a phan ddechreuai danio caech ef yn symud yn ol ychydig yn y pulpud, ac yna yn camu ymlaen yn sydyn gyda thraddodiad cryf o ryw wirionedd pwysig a fyddai yn y bregeth, ac hyd ddiwedd y bregeth byddai wedi tanio ei ysbryd. Fel y byddai yn cyrraedd calon ei bwnc ceid ef yn gwresogi ac yn ail adrodd rhyw wirionedd, ceid ef yn codi ei lais, a dyfod yn llawer mwy rhydd yn ei draddodiad. Yr oedd ei bregethu yn sicr o fod i gyfeiriad agor deall y rhai mwyaf meddylgar yn y gynulleidfa, ac i wella eu calon. Yr oedd ei bregethau oll o natur ddyrchafol, a rhyfedd fel yr oedd y meddyliau mwyaf syml ac anllythrennog yn mawrygu ei arddull a'i bregethau oll. Yr oedd ei ddull syml a dwys wrth bregethu yn dywedyd yn ei ffafr yn y gynulleidfa. Credai pawb ei fod o ddifrif yn tra- ddodi y genadwri er mwyn ennill eu heneidiau i Grist. Rhybuddiai'r annychweledig a diddanai y saint. Cadwai Grist yn wastad yn y golwg. Yr oedd ei bregethu yn efengylaidd ac ymarferol. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ac yn fyfyriwr caled. Bu yn neilltuol o ddedwydd a llwyddiannus ym Methesda,—o Hydref, 1888, pan ddaeth yma, hyd yr ymadawodd i Grove Street, Lerpwl, yn Hydref, 1895. Cadwodd yr eglwys a'r gynulleidfa gyd â'i gilydd, ac yr oedd yn gymeradwy neilltuol gyd â phob dosbarth,