Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athronyddol a diwinyddol y cyfnod hwn—ac i'r olaf yn fwy na'r blaenaf. A benthyca cymhariaeth oddiwrth rodfa a fu'n hoff iawn ganddo: yr ydym fel rhai wedi dringo i ben Braichmelyn, yn teimlo bod Carnedd Ddafydd a Charnedd Llewelyn yn codi lawer yn uwch o'n blaen, ac yn ein galw i fyny.

Pan ysgrifennodd ei draethawd ar Hegel yn 1883, cydnabyddai nad oedd ond math ar dasg neu ymarferiad (exercise), ac y mae'n syn iddo allu meistroli awdur mor anodd i'r graddau y gwnaeth mewn amser mor fyr, ac ennill clod ei feirniaid ei fod wedi ei gymhathu'n fwy na'i gydymgeiswyr, ac yn siarad ohono ei hun yn fwy. Ac er mai gwaith mawr Vera yn y Ffrangeg oedd ei brif gynorthwyydd y pryd hwnnw, cyfeiria at weithiau Caird a Wallace a Prolegomena to Ethics Green—llyfr nad oedd ond newydd ymddangos. O'r pryd hwnnw ymlaen cafodd ei atynnu'n fwy a mwy gan ddysgeidiaeth yr awduron hyn, a daeth yn dra hyddysg ynddi, fel nad ydym yn synnu ei fod, yn ol beirniadaeth yr Athro Henry Jones a Deon Llanelwy (Esgob Tyddewi), y goreu o ddigon ar y Traethawd Beirniadol ar Foeseg T. H. Green a Dr. J. Martineau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl (1892). Y gwir yw, nad oedd neb ymysg cystadleuyddion eisteddfodol y pryd hwnnw, nac am flynyddoedd wedyn, yn meddu ar ei allu athronyddol ef, nac wedi ei ddisgyblu i'r fath raddau, a gwaith cymharol rwydd iddo oedd ysgrifennu traethawd meistrolgar ar y testun uchod—nid oedd angen iddo ond dwyn mwy o drefn a dosbarth ar syniadau oedd yn eiddo iddo eisoes. Yr hyn a wnâ, fel y gellid disgwyl, yw beirniadu Martineau oddiar safbwynt athronyddol Green mewn perthynas â'u golygiadau ar (1) natur bodolaeth (unoliaeth a deuoliaeth), (2) rhyddid yr ewyllys, (3) ffynhonnell ein gwybodaeth am ddaioni moesol, ac (4) amcan terfynol bywyd,