Mewn llythyr at Mr. Adams yn ddiweddarach fe ddywed yr Athro Anwyl:
Nid oedd dim anhawster i feirniadu eich traethawd chwi a thraethawd Mr. Griffith-Jones yn oreu. Credaf na allai beirniad teg o unrhyw ysgol lai na dyfod i'r casgliad hwnnw, ond nid oedd modd penderfynu rhyngoch. . . . . Yr hyn oeddwn yn hoffi yn neilltuol yn eich traethawd chwi oedd y treiddgarwch athronyddol oedd i'w weled ynddo. . . Gyd â golwg ar gyhoeddi'r traethodau, buaswn i, o'm rhan 'fy hun—ac yr wyf yn credu fy mod yn datgan teimlad Principal Roberts hefyd yn eich cynghori i'w cyhoeddi. . . . . Fe all rhai o'r syniadau fod yn newydd i ni yng Nghymru, ond yr wyf yn credu bod y wlad yn disgwyl am rywbeth newydd. . . . Gan eich bod eich dau yn bur uniongred ar bwnc Atgyfodiad Crist ac Anfarwoldeb, nid wyf yn meddwl y tramgwydda nemawr neb wrth eich dysgeidiaeth, neu os gwnâi rhai, fe gaech lawer i'ch dilyn.
Ac er y dywed yr Athro ymhellach fod "bron bawb o'r ymgeiswyr yn credu mewn Datblygiad", a "neb yn bendant iawn ar gymryd hanes Adda ac Efa a'r Cwymp fel hanes llythrennol", yr oedd llawer o ddarllenwyr Cymru a rhai adolygwyr yn bendant iawn i'r gwrthwyneb pan gyhoeddwyd y traethawd. Eto ni bu ysgarmes fawr. Yr oedd y meddwl darllengar diwinyddol erbyn hyn wedi cael amser i ymgynefino ag athrawiaeth Datblygiad, fel nad ydoedd mwyach yn fwgan i beri dychryn; ffurfiai felly fath ar amddiffyn cyffredinol i'r llyfr. Yr oedd y ffaith ei fod yn bur uniongred ar bwnc Atgyfodiad Crist ac Anfarwoldeb hefyd yn ei ffafr. Bu'r esboniad Hegelaidd o'r Cwymp efallai'n fwy o rwystr na dim arall. Eto, gyd â rhai eithriadau, yr oedd hyd yn oed hwn, mi gredaf,