yn fwy o achos difyrrwch nag o dramgwydd: bu cyfeirio at "syrthio i fyny " yn gystal ag ysbardun i lawer pregeth, ac yn achos crechwen ym mwg tybaco'r tŷ capel.
Nid oedd ymdrin â'r testun yn ei gwneuthur yn foesol angenrheidiol i dderbyn athrawiaeth Datblygiad o gwbl; yr hyn a ofynnid oedd dangos sut y gellid esbonio'r Cwymp a'r Ymgnawdoliad ac Atgyfodiad Crist yn gyson â hi. Ond derbynia Adams y ddamcaniaeth yn ei chrynswth, gallem feddwl, o'r nwy bore ymlaen; yn unig myn roddi iddi ei gwedd ddwyfyddol (theistic) yn hytrach na'r wedd fateryddol, ac fel y cyfryw ei chyfrif yn "weddol foddhaol." Ar y llaw arall, derbynia ddatganiadau'r Beibl, gyd â'r rhagocheliad" nad yw ysbrydoliaeth eiriol, a chywirdeb digamsyniol ar bynciau gwyddonol, yn gyson â chynnwys y Beibl, nac yn cael ei honni gan ei ysgrifenwyr." Ond cofio hyn, deil "y gall un dderbyn y datganiad mai Duw yn y dechreuad a greodd y nefoedd a'r ddaear," ac eto barhau yn gredwr mai'n raddol, ac yn unol â'r egwyddorion a ddysgir gan Ddatblygwyr, y dug Duw y cread materol a'r cread bywydol i'r ffurfiau a'u nodwedda yn bresennol."
Er mwyn esbonio'r Cwymp yn gyson â'r hanes yn Genesis—nid "fel y deellir ef gan ddiwinyddion o ysgol Awstin a Chalfin "—ymwrthyd nid yn unig ag ysbrydoliaeth eiriol a gwyddonol y Beibl, ond â'r duedd i roddi ystyr llythrennol i'w ffigyrau a'i ddarluniau. "Llythyrenoliaeth yw un o rwystrau mwyaf ymchwiliad am y Gwirionedd." Yna wedi eglurhad allegol o'r lle a roddir i'r "pren" yn yr hanes, ac un chwedlonol ar yr Adda a'r Efa sydd yn natur pob dyn, deuwn at ganolbwynt athronyddol yr esboniad a gynhygia:
"Yn ol yr hanes yn Genesis y mae Pechod a Gwybodaeth, neu yn fwy cywir Pechod a Hunanymwybydd-