farwolaeth hunanaberthol, yn llawn ddatguddio natur hanfodol y Duwdod fel Cariad Cyfiawn, cariad yn ei gosbi ei hun â phoen oherwydd pechod tra yn maddeu i'r pechadur.
Y mae dau ddiffyg amlwg, na chyfeirir atynt gan ei feirniaid, yn y rhan hon o'r traethawd. (1) Ni cheir cyfeiriad at yr Ymwacad, y naill ffordd na'r llall; ac yn wahanol i'w safbwynt yn ei bryddest ar Fywyd "nid yw'n glir ar gynhanfodiad Crist. Dywed fod bodolaeth Duw fel Ysbryd Anfeidrol yn rhagdybied gwahaniaethau o angenrheidrwydd yn yr Hanfod Ddwyfol," a geilw hwynt yn Dad a Mab ac Ysbryd Glân." Dywed fod y bywyd Cristnogol yn " fywyd uwch," ac y gellid ei alw yn fywyd oddiuchod mewn ystyr allegol."Ond nid ydym, wrth ganiatau hyn, yn cael ein rhwymo i gydnabod uchfodaeth (transcendence) lleol y cyfryw, a thynnu y casgliad mai disgyn o'r nefoedd a wnaeth y bywyd santaidd Dwyfol hwnnw. . . . .Y mae yn fwy naturiol—h.y., yn fwy unol â dull gweithgarwch y Bywyd Dwyfol trwy'r cread—i dybied mai ymddatblygu a wnaeth oddiwrth a thrwy ffurfiau is y bywyd moesol ac ysbrydol oedd yn barod yn bod yn y natur ddynol." Nid yw y cyfeiriad at uchfodaeth lleol ond amherthynasol: y cwestiwn yw, nid a oedd yn bod mewn lle, ond a oedd yn bod, ai ynteu dyfod i fod a wnaeth.
(2). Nid yw yn dywedyd sut y mae dynoliaeth yn gyffredinol i'w chodi i berffeithrwydd yng Nghrist. Y cwbl a ddywed yw "bod datblygiad cynhyddol daioni mewn dyn yn gofyn am ideal sydd yn sylweddoliad o'i holl ddyheadau fel symbylydd iddo," a "bod sicrhau cymod rhyngddo ag ef ei hun fel un amherffaith, a rhyngddo fel troseddwr â Duw cyfiawn ond cariadlawn, yn galw am y Duw-ddyn lle y mae'r ddwy natur—y Ddwyfol a'r ddynol,