Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwympo ymaith." Ond gyd â gadael Bethesda, gadawodd hefyd bwyllgorau addysg sir a chyngor ar ol, fel y caffai fwy o amser yn awr i brif waith ei fywyd, er ar y llaw arall bod gofynion cyffredinol bywyd tref fel Lerpwl, i un eiddgar i'w cyfarfod, yn ei gwtogi.

Gyd â golwg ar ansawdd a maint ei wasanaeth y tu mewn i'w eglwys ei hun, amhosibl cael neb cymhwysach nac a chanddo hawl well i siarad na'i gyfaill Mr. W. R. Owen (Arolygwr y North & South Wales Bank):

"I'r alwad a anfonwyd ato i ymgymryd â'r weinidogaeth yn Grove Street, atebodd Mr. Adams, mewn llythyr hynaws a chyfeillgar ond hollol bendant, yn gwrthod y gwahoddiad oherwydd na allai ddygymod â'r syniad o dorri ei gysylltiad â Bethesda. Darllenwyd y llythyr yng nghyntaf gan un o'r swyddogion, yr hwn, ar ei gyfrifoldeb ei hun, a aeth yn syth i Fethesda i weled Mr. Adams, cyn i ddim trafodaeth gyhoeddus ddigwydd yn ei gylch. Yno bu cryn lawer o ddadleu a thaeru a pherswadio, y cyfan yn canolbwyntio yn yr anhawster o adael Bethesda, lle'r oedd ef a'i deulu mor hapus, a maes ei lafur yn un o'r rhai mwyaf dymunol yng Nghymru ac yn cynnwys hufen gwerin rymus a goleuedig. Euthpwyd am dro i fyny Nant Ffrancon, a hi yn brynhawnddydd ganol Mehefin, heb gwmwl na brycheuyn ar awyr las, Mr. Adams wrth ei fodd yn moli arddunedd y golygfeydd, a'r ymwelydd yn rhyw frith—dybio gweled creigiau'r Eryri yn ysgyrnygu dannedd arno am feiddio awgrymu i fardd ac athronydd droi ei gefn ar le fel hyn a mynd i le fel Lerpwl. Er hynny oll, diwedd yr ymddiddan a fu i Mr. Adams fodloni tynnu ei lythyr yn ol ac ail ystyried y mater. Yn fuan ar ol hyn aeth dirprwyaeth o ddiaconiaid yr eglwys i gyfarfod ag ef ym Mhwllheli, lle yr ymgynhullai Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y flwyddyn honno, sef yn yr ail wythnos o fis Gorffennaf, 1895, ac yno y sicrhawyd