Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aelodau yn eu cylch. Ffaith awgrymiadol yw na chodwyd unrhyw gwestiwn ynglŷn â syniadau diwinyddol Mr. Adams yn ystod yr adeg y buwyd yn ystyried y priodoldeb o roddi galwad iddo, nac yn gyhoeddus nac yng nghyfarfodydd y swyddogion, ac na chlybuwyd fod y pwnc wedi cael lle o gwbl yn ymddiddanion cyffredin yr aelodau, er bod llawer ohonynt wedi darllen ei weithiau a'r beirniadaethau arnynt. Y mae hyn yr un mor wir am holl ystod ei weinidogaeth yn Grove Street. Ni chlybuwyd sibrwd o gwyno am natur ei ddysgeidiaeth, ac ni ddaeth i fryd neb i ameu cywirdeb yr hyn a bregethai. Gweled yr oeddym ni, yn hytrach, ddyn ar dân gan sêl yng ngwasanaeth y Meistr; proffwyd a chanddo genadwri yn ehangu terfynau gobaith am fywyd gwell ac yn adnewyddu nerth y rhai a'i ceisiai; gŵr hawddgar, gweithiwr heb ei fath, a dysgawdwr ag yr oeddym ni yn ewyllysgar i orfoleddu yn ei oleuni.

"A ni'n sôn am yr unfrydedd hwn, mae'n deilwng o sylw fod yn aros yn Grove Street, ym mlynyddoedd cyntaf gweinidogaeth Mr. Adams, gryn nifer o hen aelodau a fuasai yno ac yn Salem er yr amser pan oedd Hiraethog yn anterth ei nerth a'i boblogrwydd rhai ohonynt yn cynrychioli dosbarth neilltuol a hynod ddiddorol o Gymry, sef rhai wedi treulio y rhan fwyaf o oes faith ynghanol Saeson, nid yn unig heb golli eu hiaith na gronyn o'u nodweddion cenedlaethol, ond heb dderbyn ar eu cymeriadau nemawr ddim argraff oddiwrth eu cymdogion Seisnig. Mae yn Llundain gannoedd o frodorion siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, ac yn Lerpwl gynifer o Fôn ac Arfon, y gellir dywedyd amdanynt nad ydyw bywyd Lloegr wedi cyffwrdd â'r anian Gymreig ynddynt nac wedi newid dim ar eu dull o fyw. O'r ochr arall, ceid pobl ieuainc a phlant wedi eu magu yn yr eglwys; rhai ohonynt yn deall ac yn siarad Cymraeg yn rhwydd, eraill yn llai ffodus